Ar-lein, Mae'n arbed amser

‘Tacsis’ anghyfreithlon dal ar y ffordd

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Meh 2023
unlicensed taxis

Mae Adran Drwyddedu’r Cyngr yn derbyn gwybodaeth bod gyrwyr heb drwydded yn parhau i weithredu fel ‘tacsis’ anghyfreithlon ar hyd Merthyr Tudful.

Mae pob gyrrwr a cherbyd trwyddedig yn cael eu hasesu gan y Cyngor i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw i safon dderbyniol a’u bod yn ddiogel ac yn addas i gludo teithwyr.

Ni fydd gan gerbydau didrwydded yr yswiriant cywir, ac ni fydd gyrwyr wedi cynnal y gwiriadau diogelu perthnasol. Ni fydd eu cerbydau ychwaith wedi cael eu hasesu a gallent fod mewn cyflwr anaddas i'r ffordd fawr.

“Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi rhybudd i aelodau’r cyhoedd am beryglon teithio mewn cerbydau didrwydded – ac er bod y broblem wedi gwella, mae yna bobl yn dal i dorri’r rheolau,” meddai’r Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Gwarchod y Cyhoedd.

“Diben trwyddedu tacsis yw diogelu’r cyhoedd, a hoffem atgoffa trigolion ac ymwelwyr o’r risgiau o fynd i mewn i’r cerbydau hyn. Mae gan yrwyr gyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelwch teithwyr a rheolaeth sylweddol dros deithwyr – teithwyr a all fod ar eu pen eu hunain a/neu’n agored i niwed.

“Mae cwsmeriaid sy’n teithio yn y cerbydau hyn yn rhoi eu hunain mewn perygl ac rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i ddefnyddio cerbydau a gyrwyr trwyddedig yn unig.”

Bydd cerbydau a drwyddedir gan y Cyngor yn arddangos sticeri drws ar y ddau ddrws ffrynt, a phlatiau trwydded ar gefn y cerbyd a'r ffenestr flaen.

Dim ond Cerbydau Hacni trwyddedig y gellir eu fflagio i lawr ar y ffordd. Cerbydau du yw'r rhain gyda to gwyn. Bydd gan bob un fesurydd tacsi wedi'i raglennu gyda'r prisiau cyfredol, a rhaid ei droi ymlaen pan fydd y daith yn dechrau er mwyn sicrhau y codir y pris cywir.

Os nad ydych yn siŵr a yw gyrrwr neu gerbyd penodol wedi’i drwyddedu, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu a all gadarnhau’r wybodaeth honno. E-bost licensing@merthyr.gov.uk

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni