Ar-lein, Mae'n arbed amser

Angen gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael a chostau byw cynyddol

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Awst 2022
wlga

 

Yn wyneb y tŵf enfawr mewn costau byw ac ynni, mae CLlLC yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:

“Mae cynghorau yn gwneud popeth i gefnogi cymunedau lleol yng ngolwg yr heriau y bydd cyn gymaint o’n trigolion yn eu wynebu o ganlyniad i gostau byw cynyddol. Mae dros 90% o gartrefi cymwys bellach wedi derby neu taliad o £150 i helpu gyda biliau ynni. Ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar unwaith i leddfu effeithiau’r cynnydd arswydus mewn biliau ynni ar wasanaethau lleol, busnesau lleol, a chymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC a’r Llefarydd dros yr Economi:

“Bydd effeithiau’r argyfwng hwn yn cael eu teimlo gan ein hysgolion lleol, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal a chymunedau ehangach. Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu nawr i sicrhau bod ein plant, pobl hŷn a’n cymunedau yn ddiogel ac yn ddiddos y gaeaf a hwn a thu hwnt. Gall y sefyllfa yma chwyddo costau ynni ein gwasanaethau lleol i £100m eleni.

“Bydd ein busnesau lleol hefyd yn wynebu cynnydd enfawr mewn costau ynni gan eu gwneud nhw’n anghynaladwy ac anghystadleuol o gymharu a phartneriaid yn ngwledydd yr UE ble mae llywodraethau yn gweithredu i amddiffyn dinasyddion a busnesau o godiadau dirfawr ac anhylaw mewn biliau ynni. Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar unwaith.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni