Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun tai a dysgu dyfeisgar yn cyrraedd y rhestr fer
- Categorïau : Press Release
- 27 Hyd 2022

Mae ailddatblygiad Canolfan Dysgu Cymunedol (CDC) y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn y Gurnos wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr genedlaethol.
Mae’r adeilad a fydd yn agor cyn y Nadolig ac sydd yn ‘ganolfan llety unigryw’ yn darparu tai a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer unigolion sydd rhwng 16 a 24 oed. Mae ymhlith y datblygiad gorau yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Tai Cymru.
Mae’r cynllun, ar y cyd â Tai Merthyr Homes wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth.’ Mae’r wobr yn ‘dathlu partneriaeth a chydweithio yn y sector tai.’
Mae’r categori ‘Creu Lle Cadarnhaol’ yn cydnabod ‘pwysigrwydd amrywiaeth o gyrff, sefydliadau a grwpiau lleol sydd yn adfywio’n cymunedau a’n cymdogaethau lleol.’
Mae hefyd yn cydnabod gweithgaredd sydd yn ceisio creu lleoedd sydd yn ‘fwy iach, cyfoethog, teg, clyfar, cryf a gwyrdd. Dylai prosiectau weithio mewn partneriaeth â chyllidwyr, darparwyr gwasanaeth ac yn fwy pwysig, cymunedau er mwyn annog adfywio llwyddiannus sydd yn cyfrannu at weledigaeth ehangach ac sydd yn dwyn manteision i gwsmeriaid.’
Agorodd y CDC, yn wreiddiol fel fflatiau preswyl ond ers y 25 mlynedd diwethaf, mae’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad addysgol sydd yn cynorthwyo pobl ifanc ac oedolion di-waith i ganfod swyddi mewn amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys gwaith trin pren, plymio, adeiladu, trin gwallt, crochenwaith a cherameg.
Fel rhan o brosiect buddsoddiad Rhaglen Cyfalaf y Cyngor, mae adnoddau cyflogaeth a hyfforddiant y ganolfan yn cael eu hadleoli i ddau o’r tri bloc ac mae’r trydydd adeilad yn cael ei ailwampio’n bum fflat hunangynhwysol. Derbyniodd y cynllun £1.1 miliwn gan Raglen Cyfalaf Disgresiynol Gofal Integredig Cwm Taf Morgannwg.
Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu gan Adrannau Tai, Gwasanaethau Plant a Chyflogadwyedd y Cyngor a hynny mewn partneriaeth â Tai Merthyr Valleys Homes er mwyn darparu llety â chymorth i bobl ifanc sydd wedi derbyn gofal neu sydd yn gadael gofal a/neu sydd mewn risg o ddigartrefedd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Rydym yn hynod falch fod y prosiect cyffrous hwn yn derbyn cydnabyddiaeth yn barod am yr hyn y mae am ei gyflawni. Bydd yr ailwampio yn denu pobl ifanc i’r llety hwn sydd o safon uchel a bydd yr hyfforddiant gwych a’r sgiliau sydd yn cael eu cynnig yn eu cynorthwyo i dyfu a chreu dyfodol gwell.
“Bydd yr holl brosiect yn cael effaith gwych ar greu lle gan adfywio nid yn unig yr hen adeilad a’r llety ond hefyd yr ardaloedd cyfagos. Bydd yn lle bywiog i fyw, ymweld ag ef ac i ennill sgiliau a hyfforddiant all arwain at gyflogaeth.”
Mae’r ailddatblygiad yn dod yn ei flaen yn dda ac mae un o’r blociau wedi ei gwblhau ac yn cynnwys staff yn barod. Bydd y bloc llety yn barod cyn y Nadolig.
- Bydd Gwobrau Tai Cymru yn cael eu cynnal ar 18 Tachwedd yng Ngwesty’r Celtic Manor.