Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arolygiad o wasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ystyried gallu oedolion hŷn i fod yn annibynnol

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Ion 2020
care-inspectorate-wales-vector-logo

Roedd yr adolygiad, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn ystyried pa mor dda y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu.

Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar brofiad oedolion hŷn wrth iddynt ddod i gysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddechrau, a symud drwyddynt hyd at y pwynt y gallai fod angen iddynt symud i gartref gofal.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gryfderau'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol, a meysydd i'w gwella. Mae'r canfyddiadau allweddol yn gyson ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sydd wedi bod mewn grym ers bron tair blynedd.

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Gweinidogion Cymru sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd ati i hybu llesiant y rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt, neu ofalwyr y mae angen cymorth arnynt.

Nododd yr adolygiad gryfderau a meysydd i'w gwella yn y dyfodol, gan gynnwys:

Canfyddiadau Allweddol

  • Llesiant – gwelodd yr arolygiaethau y gall pobl ag anghenion cymhleth ddisgwyl cael eu cefnogi i fyw gartref am gyhyd â phosibl gan ganolbwyntio ar hyrwyddo eu hannibyniaeth a sicrhau eu bod yn cael y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir.
  • Pobl – llais a dewis – roedd y rhan fwyaf o'r asesiadau o alluedd meddyliol wedi cael eu cynnal i safon dda ac yn dangos cofnod gair am air o'r cwestiynau a ofynnwyd i'r bobl, a'u hymatebion.
  • Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – gwelodd yr arolygiaethau fod ymarferwyr a oedd wedi'u cyd-leoli yn cyfathrebu ac yn cydweithio'n dda er mwyn sicrhau nad oedd angen i bobl ailadrodd eu gwybodaeth.
  • Atal ac ymyrraeth gynnar – Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi darparu amrywiaeth o wasanaethau i bobl i'w helpu i ddychwelyd adref o'r ysbyty a chynnal eu hannibyniaeth, gan gynnwys mân addasiadau gan yr adran Gofal a Thrwsio a gwasanaethau cymorth gan Age Connect.

Meysydd i'w gwella

  • Llesiant - nododd yr arolygiaethau fod yn rhaid i reolwyr sicrhau bod sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig' yn cael eu hymgorffori'n llawn mewn ymarfer er mwyn sicrhau bod y canlyniadau personol penodol y mae pobl am eu cyflawni bob amser yn cael eu nodi a'u cofnodi.
  • Pobl – llais a dewis – mae angen i'r awdurdod lleol sicrhau eiriolaeth ffurfiol ddigonol i gyflawni dyletswyddau statudol a bodloni ei hun bod yr ymarferwyr yn hyderus i hyrwyddo'r gwasanaeth.
  • Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – awgrymodd yr arolygiaethau fod angen cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr awdurdod lleol, sefydliadau'r trydydd sector, cydgysylltwyr cymunedol a gweithwyr cymorth meddygon teulu, er mwyn gwella canlyniadau i bobl.
  • Atal ac ymyrraeth gynnar – mae angen i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd sicrhau bod gwasanaethau cymorth, cyngor a gwybodaeth yn fwy effeithiol ac yn cydymffurfio â Rhan 2 o'r Cod Ymarfer (swyddogaethau cyffredinol).


Y camau nesaf

Mae AGC ac AGIC wedi tynnu sylw'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd at gryfderau a meysydd i'w gwella. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni