Ar-lein, Mae'n arbed amser
Map Rhyngweithiol sy’n nodi holl atyniadau i ymwelwyr ym Merthyr
- Categorïau : Press Release
- 17 Hyd 2019

Bydd ymwelwyr â Merthyr Tudful sydd am ddod i adnabod y fwrdeistref sirol yn well yn gallu nodi’n union ble mae angen iddyn nhw fynd drwy ddefnyddio gwefan â map rhyngweithiol.
Mae Darganfyddwr Lleoliad Croeso Merthyr a luniwyd gan Dîm Rheoli Cyrchfan y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn galluogi defnyddwyr i ddod o hyd i bopeth, o lefydd i aros ynddynt ac atyniadau i dwristiaid i ddewisiadau am fwyd a diod, siopau, llwybrau a hyd yn oed gwaith celf gyhoeddus.
Mae dros 230 o bethau wedi eu rhestru ar y wefan, gan gynnwys llety yn amrywio o Wely a Brecwast pedwar seren Croeso Cymru i wersylla, glampio a thai bync; atyniadau i ymwelwyr fel canolfannau gweithgareddau awyr agored ac adeiladau treftadaeth rhestredig; tai bwyta am giniawa da a phrydau parod; marchnadoedd dan do ac awyr agored; llynnoedd, parciau a llwybrau cerdded.
“Mae’r map yn un o nifer o arfau marchnata twristiaeth a lansiwyd gan y Cyngor i sicrhau fod ymwelwyr yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud y gorau o bob ymweliad yma,” dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas.
“Yn ychwanegol at wefan Croeso Merthyr, ceir Canllaw i Ymwelwyr, tudalen Facebook a chyfrif Twitter ac Instagram.
“Gyda fy mod wedi byw ym Merthyr Tudful ar hyd fy mywyd, rwy’n ymwybodol o’r rhan fwyaf o’r hyn sydd gennym i’w gynnig – ond roedd hyd yn oed fi, wedi fy synnu gan helaethrwydd y dewisiadau llety, er enghraifft.
“Mae gennym ni hefyd dai bwyta a bariau newydd a siopau’n agor yn rheolaidd - sydd i’r gwrthwyneb â’r hyn sy’n arferol yn nhrefi’r Cymoedd - ac yn hynny o beth, mae’r map yn ddefnyddiol i breswylwyr yn ogystal ag i ymwelwyr.
Mae’r map ar wefan Croeso Merthyr ac ar gael yma visitmerthyr.co.uk/map-page
“Rydym yn falch iawn â chynnwys y map hyd yma, ond, yn anochel fe fydd yna rai pethau y byddwn wedi eu methu,” ychwanegodd y Cynghorydd Thomas. “System mapio byw yw hi a fydd yn esblygu’n barhaus i adlewyrchu newidiadau yn y diwydiant.
“Byddem wrth ein bodd o glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth neu leoedd i’w hychwanegu – a byddem yn arbennig o falch o gael unrhyw ddelweddau newydd er mwyn ei wella ymhellach.”