Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Gwyddel Declan yn cael ei ethol yn Faer Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Mai 2022
Declan Sammon Mayor 22-23

Mae Gwyddel a gwympodd mewn cariad gyda Merthyr Tudful ar ymweliad 21 mlynedd yn ôl wedi ei ethol yn Faer y fwrdeistref sirol am y flwyddyn 2022-23.

Cymerodd y Cyng. Declan Sammon, sy’n byw yn Nowlais ac yn cynrychioli ward Dowlais ers 2017 yr awenau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor.

Fel Prif Ddinesydd Merthyr Tudful, bydd dyletswyddau'r Cyng. Sammon yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor a chynrychioli'r awdurdod ar adegau seremonïol trwy’r fwrdeistref, yn rhanbarthol, cenedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd hefyd yn croesawu ymwelwyr I Ferthyr Tudful ac yn mynychu digwyddiadau wedi ei drefnu gan bobl leol a sefydliadau.

Ganwyd Declan yn Clarecastle, pentref i’r de o Ennis yn Swydd Clare, a death gyntaf I Ferthyr Tudful yn 2001 wrth chwilio am eiddo busnes i’w brynu.

“Disgynnais mewn cariad,” meddai. “Rydw I wedi byw mewn sawl lle, pob un ohonynt yn hyfryd, ond ddim un yn cymharu gyda Merthyr Tudful- sydd bellach yn gartref i mi. Mae’r bobl yn onest, cyfeillgar a chroesawgar ac mae wedi bod yn bleser gweithio dros y preswylwyr yn fy rôl fel cynghorydd dros y bum mlynedd ddiwethaf.”

Mae’r Maer newydd wedi dewis cefnogi dwy elusen leol: Cancer Aid Merthyr Tudful, sy’n cynnig cymorth i gleifion canser a’u teuluoedd a Banc bwyd Merthyr Cynon - sydd wedi rhoi 3,781 o barseli bwyd dros y flwyddyn ac sydd wedi helpu 642 o breswylwyr lleol mewn gwir angen yn y mis diwethaf.

Cymar Declan yn ystod y flwyddyn fydd y Cyng. Paula Layton, ei gymer ers 18 mlynedd ac.

Y Dirprwy Faer ar gyfer 2022/23 yw Maer y flwyddyn ddiwethaf, y Cyng. Malcolm Colbran, sy’n cynrychioli ward Bedlinog a effeithiwyd yn sylweddol ar ei gyfnod fel Maer gan y pandemig.

Os hoffech wahodd y Maer i ddigwyddiad, cysylltwch ar mayoral@merthyr.gov.uk

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni