Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwledd o swyddi posib mewn digwyddiad ym mis Ionawr
- Categorïau : Press Release
- 21 Rhag 2022

Mae’n bosib y bydd dros 200 o swyddi’n cael eu cynnig gan ystod eang o gyflogwyr ym Merthyr Tudful mewn ffair swyddi a gynhelir yn Ionawr.
Mae dros 20 o fusnesau a recriwtwyr gyda diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad, sydd wedi ei drefnu gan Dîm Gyflogadwyedd y Cyngor Bwrdeistref Sirol mewn partneriaeth gyda Job Centre Plus Merthyr Tudful.
Bydd ystod eang o sectorau’n cael eu cynrychioli yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful ar ddydd Iau'r 26ain o Ionawr. Bydd y Cyngor yn arddangos yr amrywiaeth o waith a wneir gan yr awdurdod lleol, ochr yn ochr â chwmnïau uwch-weithgynhyrchu a chwmnïau peirianneg, busnesau adeiladu, manwerthu a gwasanaethau cwsmer, gweithgareddau awyr agored a darparwyr gofal iechyd.
Meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Dyma ein ffair recriwtio gyntaf ers tair blynedd o achos y pandemig, ac rydym wrth ein boddau i weld cymaint o ddiddordeb ynddo gan gyflogwyr posib”
• Bydd Camu i Swydd Newydd yn digwydd rhwng 10am-1pm ym mhrif neuadd y Ganolfan Hamdden, a byddwn yn rhoi digonedd o wybodaeth ychwanegol i chi dros yr wythnosau nesaf.