Ar-lein, Mae'n arbed amser

Menter ar y cyd yn gosod y sylfeini ar gyfer gofod cyflogaeth ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Tach 2025
An artist's impression of the Goat Mill Road employment site (Credit - WSP)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fenter ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ddatblygu safle cyflogaeth 19 erw.

Bydd y cytundeb yn cynnig seilwaith er mwyn adeiladu lleiniau sy'n barod am fuddsoddiad yn Goat Mill Road, ym Merthyr Tudful. Dydy'r safle ddim wedi cael ei ddatblygu ers cynnal gwaith adfer yn ail hanner yr 1990au.

Bydd y cynllun yn elwa o fwy na £4.5m o gyllid Llywodraeth Cymru , ochr yn ochr â buddsoddiad o £5.1m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Bydd y gwaith galluogi yn creu swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a'r cyfnod meddiant, pan fydd gwaith adeiladu'n digwydd ar y lleiniau .

Bydd y buddsoddiad yn manteisio ar welliannau a gwblhawyd yn ddiweddar i'r A465 gerllaw ac yn cyd-fynd â phrosiectau a wnaed yn rhan o raglen Cymoedd Technoleg.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Mae mannau busnes o ansawdd uchel â chysylltedd da yn hanfodol ar gyfer ehangu a chreu swyddi.

"Bydd y prosiect pwysig hwn yn cyflymu argaeledd lleiniau sy'n barod am fuddsoddiad ar y safle hwn ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl yn y cymunedau cyfagos, gan ein helpu i gyflawni ein blaenoriaeth o dyfu'r economi ym mhob rhan o Gymru."

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi’r cyllid trwy Fenter y Cymoedd Gogleddol.

Dywedodd Mike Brough, Y Cyfarwyddwr Strategol dros Dwf Rhanbarthol yn Ninas-Ranbarth Caerdydd:

“Adfer a datblygu tir gwerthfawr fel hwn ar gyfer twf cynaliadwy yw hanfod gwaith Menter Cymoedd Gogleddol Dinas-Ranbarth Caerdydd ac rydym wrth ein bodd cael ei gyd-ariannu gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol ym Merthyr Tudful. Mae’n tîm yn disgwyl ymlaen at gydweithio ar hwn dros y blynyddoedd nesaf, i sbarduno twf economaidd a chreu swyddi ym Merthyr Tudful.”

Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

“Mae Merthyr Tudful yn prysur ddatblygu’n lle y mae pobl am fuddsoddi ynddo a dod â’u busnesau iddo. Mae hynny’n rhannol oherwydd ein lleoliad strategol; rydyn ni mewn lle perffaith, yng nghanol y cymoedd gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol â phob rhan o’r De.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni