Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda phrentisiaeth EE yn nigwyddiad recriwtio Gyrfa Cymru ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 07 Ion 2025

Mae Cymru’n Gweithio, mewn partneriaeth ag EE, yn cynnal digwyddiad recriwtio ar gyfer unigolion sydd am roi hwb i’w gyrfaoedd drwy gyfleoedd prentisiaeth cyffrous.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghanolfan Gyrfa Cymru ym Merthyr Tudful, lle gall y sawl sy’n bresennol ddysgu mwy am y rolau prentisiaeth sydd ar gael yng nghanolfan alwadau EE ym Merthyr Tudful.
Manylion y digwyddiad:
- Dyddiad: Dydd Iau, 9 Ionawr 2025
- Amser: Mae tair sesiwn ar gael – 10am i 11am, 12pm i 1pm, 2pm i 3pm
- Lleoliad: Canolfan Gyrfa Cymru Merthyr Tudful, 27 Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF47 8DP
Mae 42 o rolau prentis Gwasanaeth Cwsmer ar gael, sydd â chyflog cychwynnol o £20,280, ac mae disgwyl iddynt ddechrau ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025. Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad, ond mae lleoedd yn gyfyngedig a rhaid cadw lle ymlaen llaw ar Eventbrite: Digwyddiad Recriwtio Prentisiaethau ar gyfer EE ym Merthyr Tudful, 9 Ionawr 2025 – Tocynnau, Amryfal Sesiynau | Eventbrite
Yn ystod y digwyddiad, bydd y sawl sy’n bresennol yn cael cyfle i siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o EE, a fydd yn darparu gwybodaeth fanwl am y rôl ac yn ateb unrhyw gwestiynau. Bydd cynghorwyr gyrfa o Cymru’n Gweithio hefyd ar gael i ddarparu cymorth cyflogadwyedd am ddim, a fydd yn cynnwys cymorth gydag ysgrifennu CV, paratoi am gyfweliad, ac awgrymiadau ar gyfer cwblhau ceisiadau.
Dywedodd Connor Price, swyddog recriwtio gyda EE: ‘Rydyn ni’n llawn cyffro i gynnig cyfle gwych i unrhyw un sydd am weithio’n llawn amser tra’n ennill cymhwyster. Byddwn ni yno i’ch cefnogi a’ch arwain wrth gyrraedd eich nodau. Drwy ymuno â ni, byddwch chi nid yn unig yn datblygu eich gyrfa ond hefyd yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid.’
Dywedodd Peter Hopkins, rheolwr tîm yn Cymru’n Gweithio: ‘Rydyn ni wrth ein bodd cael bod yn bartner gydag EE i gynnal y digwyddiad recriwtio hwn yn ein canolfan gyrfa ym Merthyr Tudful. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i archwilio’r rolau sydd ar gael a chael cymorth i wneud cais cryf.’
Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei gynnal gan Gyrfa Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd a chymorth cyflogadwyedd i’r rhai sy’n 16 oed a hŷn.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Cymru’n Gweithio, a sut i gael cymorth gyrfa, ewch i wefan Cymru’n Gweithio, ffoniwch am ddim ar 0800 028 4844, siaradwch â chynghorydd drwy we-sgwrs, neu anfonwch e-bost i cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru.