Ar-lein, Mae'n arbed amser

Wythnos Gofal gan Berthynas 2026: Dathlu Teuluoedd Gofal gan Berthynas ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 05 Hyd 2026
Kinship Care Week 2026

Mae Wythnos Gofal gan Berthynas (Hydref 5-9) yn wythnos genedlaethol o ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a dathliad o deuluoedd gofal gan berthynas. Mae'n amser i daflu goleuni ar rôl hanfodol perthmasau sy'n camu i mewn i helpu i fagu plentyn aelod o'r teulu neu ffrind, gan ddarparu cartref cariadus a sefydlog i dros 141,000 o blant, ledled Cymru a Lloegr.

Ym Merthyr, rydym yn falch o gydnabod cyfraniad anhygoel gofalwyr yn ein cymunedau. Mae'r teuluoedd hyn gan gynnwys neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod, brodyr a chwiorydd a ffrindiau teulu yn camu i fyny mewn ffyrdd rhyfeddol i gadw plant mewn cysylltiad â'u hanwyliaid, eu gwreiddiau a'u cymunedau. Mae hyn hefyd yn cynnwys ein gofalwyr maeth ymroddedig, sy'n darparu cymorth hanfodol i blant sydd yn agored i niwed bob dydd.

Mae Wythnos Gofal gan Berthynas yn rhoi cyfle i ni godi ymwybyddiaeth o'r teuluoedd unigryw, anhygoel hyn sy'n aml yn gorchfygu amseroedd anodd er mwyn sicrhau bod plant yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu caru.

Mae chwe phrif fath o ofal gan berthynas; trefniadau teuluol preifat, maethu, gorchmynion trefniadau 'byw gyda' plant neu orchmynion preswylio, gwarcheidiaeth arbennig, gofal maeth (o dan orchymyn gofal neu drefniant gwirfoddol) a mabwysiadu.

Mae Wythnos Gofal gan Berthynas yn ein hatgoffa bod yna gymuned bwerus o ofalwyr sy'n rhannu eu profiadau i helpu eraill i deimlo'n llai ynysig a’u grymuso.

Dywedodd y Cynghorydd Louise Minett-Vokes, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol: "Mae'r teuluoedd anhygoel hyn yn asgwrn cefn ein cymuned. Nid yn unig maen nhw'n darparu cartref, maen nhw'n darparu parhad, cariad ac ymdeimlad o berthyn yn ystod cyfnodau heriol. Mae pob gofalwr yn arwr sy'n sicrhau bod plant yn parhau i fod mewn cysylltiad â'u gwreiddiau ac yn cael eu cefnogi trwy gyfnodau anoddaf bywyd."

Kinship yw'r brif elusen gofal gan berthynas yng Nghymru a Lloegr ac fe wnaethant lansio Wythnos Gofal gan Berthynas yn wreiddiol yn 2018. Maent yn cefnogi, cynghori a hysbysu gofalwyr, ffrindiau neu deulu sy'n camu i fyny i fagu plant pan nad yw eu rhieni yn gallu gwneud hynny gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod wedi'u grymuso. Mae Kinship yn cynnig gweithdai, cymorth a chymuned am ddim i helpu Gofalwyr gan Berthynas i wynebu heriau’n hyderus.

Cymerwch ran yn Wythnos Gofal gan berthynas yma: kinship.org.uk/kinship-care-week

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni