Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gweinyddiaeth dan arweiniad Llafur yn cymryd drosodd arweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 18 Medi 2024

Mewn cyfarfod o'r Cyngor a gynhaliwyd heno, dydd Mercher Medi 18fed, cymeradwywyd penodi'r Cynghorydd Llafur, Brent Carter yn Arweinydd newydd CBSMT.
Cyhoeddodd Arweinydd y Grŵp Annibynnol blaenorol, y Cynghorydd Geraint Thomas, ei fod yn rhoi'r gorau i'r rôl ddydd Iau diwethaf Medi 12fed, yn dilyn isetholiad diweddar Ward Bedlinog a Threlewis gan arwain at newid arweinyddiaeth wleidyddol.
Dywedodd y Cynghorydd Carter: "Heno rydym yma i weld newid gweinyddiaeth a chyflwyno newid yn arddull arweinyddiaeth. Un a fydd yn wydn ac yn ddeinamig, a fydd yn helpu i drawsnewid yr Awdurdod yn sefydliad addas i'r diben sy'n barod ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Fel gweinyddiaeth, mae'n rhaid i ni fod yn realistig, yn onest ac yn fwy tryloyw. Byddwn yn mynd ati i wrando ar farn pobl, wrth fod yn agored am y dewisiadau anodd y gallem eu hwynebu.
"Rwyf wedi byw ym Merthyr ar hyd fy oes, a gallaf ddweud yn onest na fyddwn i eisiau byw yn unman arall. Rwy'n hynod falch o'n tref, a gallaf ddweud yma heno, byddaf yn rhoi popeth sydd gennyf i sicrhau bod gan Ferthyr Tudful lais cryf ar draws pob platfform.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu Gill Preston, a etholwyd yn Gynghorydd Llafur mwyaf newydd, yn cynrychioli, Ward Bedlinog a Threlewis. Bydd Gill yn gynrychiolydd ardderchog i'r ddwy gymuned, mae hi'n gweithio'n galed, yn ymroddedig ac wedi dangos dros y blynyddoedd, ei hawydd i helpu a chefnogi ei hetholwyr.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r Cynghorydd Geraint Thomas a'r Cabinet am y gwaith y maent wedi'i wneud a'r cyfraniadau y maent wedi'u gwneud.
"Fel yr Arweinydd newydd, byddaf yn sicrhau bod y trawsnewid hwn yn gyflym a bod trosglwyddiad llawn yn cael ei gwblhau, a bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau y gellir craffu a diwydrwydd dyladwy fel ein bod yn gwybod beth yw'r sefyllfa bresennol y mae'r awdurdod ynddi."
Yng Nghyfarfod y Cyngor, cadarnhaodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hefyd ei Gabinet newydd ar gyfer y weinyddiaeth arweiniol newydd:
- Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth, y Cynghorydd David Jones
- Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Gareth Lewis
- Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Jamie Scrivens
- Aelod Cabinet dros Lywodraethu ac Adnoddau, y Cynghorydd Anna Williams-Price