Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau lôn yn Stryd Penry ar gyfer gwaith brys
- Categorïau : Press Release
- 12 Ebr 2024

Ar hyn o bryd mae gan y Grid Cenedlaethol nam cebl 11,000 folt ar ran annatod o rwydwaith ceblau sy'n bwydo cwsmeriaid rhwng Tref Merthyr a Phentrebach.
Mae nam ar y cebl wedi'i leoli ar gyffordd Stryd Penri ac er mwyn atgyweirio'r nam mae angen cau rhan o’r ffordd ar frys i gynorthwyo gyda'r gwaith cloddio a sicrhau bod man gweithio diogel yn cael ei ddarparu.
Bydd y rhan o’r ffordd ar gau o 7pm heno, dydd Gwener 12 Ebrill, er mwyn osgoi amseroedd brig.
Mae'r rheolaeth traffig sydd wedi ei atodi yn darparu'r llwybr dargyfeirio amgen.
Mae disgwyl i'r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau ddydd Sul 14 Ebrill.