Ar-lein, Mae'n arbed amser
Datganiad yr Arweinydd ar y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/24
- Categorïau : Press Release , Council , Education , Schools , Corporate
- 08 Maw 2023
Bydd y Dreth Gyngor ym Merthyr Tudful yn codi 4.7% fel rhan o gyllideb y cyngor ar gyfer 2023/24. Y cyfartaledd yng Nghymru yw 5.5%.
Mae’r cynnydd cyfwerth â £1.05 yr wythnos ar gyfer Eiddo Band A a £3.68 yr wythnos ar gyfer eiddo Band I.
Mae 2022/23 wedi bod yn flwyddyn anodd i Ferthyr Tudful a bu’n rhaid i’r cyngor a’r preswylwyr ddygymod â gwasgfeydd chwyddiant mawr. Er gwaethaf y cyfyngiadau cyllidebol a’r gofynion parhaus ar yr awdurdod, mae’n rhaid i ni barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu’r mwyaf anghenus.
Cyn y Nadolig, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y gyllideb hon wedi bod gyda’r anoddaf erioed ers i bwerau symud o Westminster i Fae Caerdydd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Wedi wythnosau o drafod ynghylch y Dreth Gyngor, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd a heriol.
“Fel sawl awdurdod lleol arall, ledled y wlad, mae gosod cyllideb gytbwys wedi bod yn anodd.
“Hoffwn sicrhau pawb y bydd yr heriau y mae’n preswylwyr a’n busnesau yn eu hwynebu yn ganolbwynt i holl benderfyniadau’r Cyngor.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn darparu gwybodaeth ynghylch lle y bydd Cyllideb y Cyngor yn cael ei wario.”