Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mis Hanes LHDTC+
- Categorïau : Press Release
- 01 Chw 2020
Mae Mis Hanes LHDTC+ yn fis lle yr edrychir ar hanes lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a chwiar ac mae hefyd yn fodd o godi ymwybyddiaeth o’r problemau y mae’r boblogaeth LGBTQ+ yn eu hwynebu. Y thema eleni yw Barddoniaeth, Rhyddiaith a Dramâu.
Y prif ffocws yw dysgu pobl ifanc ynghylch y sefydliad hawliau hoyw gan weithio i osgoi homoffobia, biffobia a trawsffobia, er bod y cylch gwaith wedi cynyddu’n fawr ac wedi ymestyn dros y blynyddoedd.
Prif fwriad Mis Hanes LHDTC+ yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a hynny er budd y cyhoedd, yn gyffredinol.
Gwneir hyn drwy:
- Gynyddu gwelededd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a trawsrywiol (“LHDTC+”), eu hanes, eu bywydau a’u profiadau yng nghwricwlwm a diwylliant sefydliadau addysgol ac eraill gan gynnwys y gymuned ehangach;
- Codi ymwybyddiaeth a datblygiadau addysgol mewn meysydd sy’n effeithio ar y gymuned LHDTC+;
- Gweithio i wneud sefydliadau addysgol ac eraill yn lleoedd diogel ar gyfer pob cymuned LHDTC+;
- Hyrwyddo lles pobl LHDTC+ drwy sicrhau fod y system addysg yn cydnabod ac yn galluogi pobl sydd yn LHDTC+ i gyflawni eu potensial fel y gallant gyfrannu’n llawn at gymdeithas ac arwain bywydau cyflawn sydd o fudd i’r gymdeithas gyfan.
Dewiswyd mis Chwefror er mwyn cyd-fynd â diddymu Adran 28 a ddynododd yn swyddogol nad oedd gan awdurdodau lleol yr hawl i “hyrwyddo cyfunrywioldeb yn fwriadol.”
Fel rhan o’r Cynghorau Balch, bydd CBSMT yn chwifio baneri er mwyn cynrychioli’r cymunedau LHDTC+. Bydd seremoni codi’r faner yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Ddinesig ar 10 Chwefror am 10.30am.