Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwrandawiad y Pwyllgor Trwydded ganslo
- Categorïau : Press Release
- 08 Ebr 2019
Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gadarnhau fod gwrandawiad y Pwyllgor Trwydded a amserlenwyd ar gyfer 10 Ebrill 2019 mewn perthynas â Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Glwb Rygbi Treharris bellach wedi cael ei ganslo. Mae hyn yn dilyn cyflafareddu rhwng yr Ymgeisydd, Mr Anthony Morgan ac Adran Iechyd yr Amgylchedd yn y Cyngor a oedd wedi gwrthwynebu’r Hysbysiad.
Mae’r hysbysiad digwyddiad dros dro wedi cael ei addasu yn dilyn cytundeb rhwng y ddau barti i leihau oriau a oedd yn rheoleiddio adloniant a fydd yn digwydd yn y digwyddiad. Yr oriau diwygiedig ar gyfer adloniant rheoledig yn unig yw 6pm i 9pm ar gyfer dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul, Mai 10-12. Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd hefyd wedi cadarnhau y byddant yn monitro’r digwyddiad drwy gyfrwng offer recordio sŵn.
Mae’r Cyngor yn annog unrhyw ymgeisydd ar gyfer hysbysiad digwyddiad dros dro i gysylltu â’r awdurdodau perthnasol cyn cyflwyno cais i atal materion fel hyn rhag digwydd.