Ar-lein, Mae'n arbed amser

Goleuadau, Camera, Action! Disgyblion Ysgol Pen y Dre yn mynd i’r afael â bwlio homoffobig

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 20 Gor 2022
Picture1 (7)

Yn ddiweddar, bu disgyblion Ysgol Uwchradd Pen y Dre  yn cyfranogi mewn ffilm fer o’r enw 'Look at Us' er mwyn tynnu sylw at fwlio yn sgil cyfeiriadedd rhywiol.  

Penderfynodd Ffilm Cymru, ar y cyd â Cymoedd Creadigol y dylai disgyblion Ysgol Pen y Dre ddod â sgript disgyblion Ysgol Gymunedol Porth yn RhCT yn fyw.  

Derbyniodd disgyblion Ysgol Pen y Dre gymorth gan Adran Ddrama’r ysgol i gynhyrchu a chyfarwyddo’r ffilm fer gan gyflawni nifer o roliau, yn cynnwys actio, gwaith camera, colur a golygu gan defnyddio’u sgiliau creadigol trwy gydol y broses.

Dywedodd athro Ddrama Pen Y Dre, Nathan Coles a fu’n cydweithio ac yn cyfarwyddo’r disgyblion ar y prosiect: “Mae pwnc homoffobia yn un hynod deimladwy. Mae'n ofnadwy bod y myfyrwyr a ysgrifennodd y ffilm hon yn anffodus i fod yn destun ir fath hwn o fwlio ac aflonyddu. Rwy’n gobeithio ein bod wedi creu rhywbeth a fydd yn gwneud i bobl werthfawrogi pa mor bwysig yw hi i fod yn garedig i bawb, dim ots am rywioldeb neu sut maen nhw’n uniaethu eu hunain.”

Dywedodd y Cynghgorydd Gareth Richards, Eiriolydd ar gyfer Cydraddoldeb; “Rwy’n falch i weld fod un o ysgolion Merthyr Tudful, Ysgol Pen y Dre yn rhan o’r ffilm, ‘Look at Us’. Nid yw bwlio o unrhyw fath yn dderbyniol ac rwy’n ymwybodol fod ysgolion yn ceisio’u gorau i fynd i’r afael â’r broblem. Fodd bynnag, dengys ymchwil fod bwlio’n aml yn diwgydd yn sgil cyfeiriadedd rhywiol unigolyn. Gall hyn arwain at alw enwau, tynnu coes neu drais. Gall ffilmiau fel hyn wella dealltwriaeth felly da iawn wir, Ysgol Pen y Dre.”

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Jones, aelod o’r Cabinet ar gyfer dysgu: “Mae’r ffilm yn dangos sut y gall bwlio gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ifanc. Mae’n dangos bod angen i ni gyd sicrhau nad yw bwlio’n rhan o fywyd yr ysgol.”  

Ar 18 Gorffennaf, cafodd disgyblion, staff a rhieni gyfle i wylio’r premiere yng Ngholeg y Cymoedd ac roedd cynrychiolwyr o Stonewall, Cymoedd Creadigol, Ffilm Cymru a Gyrfa Cymru yn bresennol.

Dyma ddolen i’r ffilm: https://youtube.com/watch?v=f6HbT8egMnY&feature=share

 

Am ragor o wybodaeth am Ffilm Cymru, y modd y mae’n cael ei ariannu a’r gwaith y mae’n ei wneud â phobl ifanc, ewch i https://ffilmcymruwales.com/

Am ragor o wybodaeth am Cymoedd Creadigol, ewch i https://www.cymoeddcreadigol.org.uk/

Am ragor o wybodaeth am Stonewall, ewch i https://www.stonewallcymru.org.uk/

Am gymorth â materion sydd yn ymwneud â LGBTQ+, cysylltwch â llinell gymorth Cymru ar 0800 9179996 neu ewch i https://lgbtcymru.org.uk/ 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni