Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sbwriel wedi ei ganfod ar 99% o brif ffyrdd yng Nghymru
- Categorïau : Press Release
- 19 Chw 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog modurwyr ‘Gyrrwch eich sbwriel adref’ wrth i ddata newydd ddatgelu bod sbwriel yn bresennol ar bron pob prif ffordd yng Nghymru.
Fe wnaeth arolygon gan Cadwch Gymru’n Daclus ganfod sbwriel ar 98.8% o ffyrdd A a B, gyda sbwriel smygu – bonion sigaréts yn bennaf – yn bresennol ar 88.1% o brif ffyrdd.
Amlygodd y data hefyd effaith amgylcheddol bwyd a diod ‘wrth fynd’, gyda phapurau melysion, cynwysyddion diodydd a deunydd pecynnu bwyd brys ymysg y mathau mwyaf cyffredin o sbwriel ar hyd ochr ein ffyrdd.
Mae arolygon a wnaed rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025 yn datgelu bod:
- Deunydd pecynnu danteithion (melysion a siocled) yn bresennol ar 80.7% o brif ffyrdd.
- Sbwriel diodydd yn bresennol ar 72.1% o brif ffyrdd.
- Sbwriel bwyd brys yn bresennol ar 67% o brif ffyrdd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cefnogi ymgyrch ‘Gyrrwch Eich Sbwriel Adref’ Cadwch Gymru’n Daclus, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i godi ymwybyddiaeth o effeithiau pellgyrhaeddol sbwriel ar ochr y ffordd – problem sydd yn bygwth bywyd gwyllt, yn llygru dyfrffyrdd, ac sydd yn beryglus ac yn ddrud i’w lanhau.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Yn ei hanfod, Caru Cymru yw fy swydd ddisgrifiad, ond rydw i hyd yn oed yn teimlo embaras am gyflwr ochr ein ffyrdd. Does dim esgus dros daflu sbwriel o gerbyd. Mae’n ddiog, yn ddiangen, a gellir ei osgoi yn llwyr.”
Aeth ymlaen:
“Nid yw sbwriel ar ochr y ffordd yn broblem newydd, ond mae’r data diweddaraf hyn yn dangos pa mor gyffredin y mae erbyn hyn. Mae angen i bob modurwr gymryd cyfrifoldeb. Eich eiddo chi yw sbwriel yn eich cerbyd. Gyrrwch ef adref a’i waredu’n gywir.”
I ganfod mwy am ymgyrch sbwriel ar ochr y ffordd Cadwch Gymru’n Daclus, ewch i: www.keepwalestidy.cymru