Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymestyn dyddiad cau aelodaeth Fforwm Mynediad Lleol

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Medi 2022
Local Access Forum

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau aelodaeth Fforwm Mynediad Lleol Merthyr Tudful yn cael ei ymestyn i 30 Medi.

Os ydych yn breswylydd lleol a bod gennych ddiddordeb i ddiogelu a chynnal mynediad i fannau gwyrdd a thramwy cyhoeddus ym Merthyr Tudful, dyma’ch cyfle chi i wneud hynny.

Mae 24 o Fforymau Mynediad Lleol, ledled Cymru. Cawsant eu creu yn y flwyddyn 2000 er mwyn cynghori’r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch mynediad cyhoeddus i dir yn yr awyr agored lle y gellir mwynhau hamddena. 

Wrth ddarparu’r cyngor hwn, mae’r fforymau’n ystyried materion pwysig sydd yn ymwneud â rheoli tir, ynghyd â’r angen i ddiogelu prydferthwch naturiol yr ardal.

Maent yn cynnwys rhwng 12 a 22 aelod sydd yn cynrychioli: 

  • defnyddwyr tir mynediad lleol a hawliau tramwy lleol
  • perchnogion a meddianwyr tir mynediad a thir sydd â hawliau tramwy
  • buddiannau eraill sydd yn berthnasol i’r ardal

“Mae gan Ferthyr Tudful gyfoeth o ardaloedd gwyrdd ac mae’r Cyngor yn awyddus fod pobl yn parhau i’w mwynhau ac edrych ar eu hôl;” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor ac Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio.   

“Ar hyn o bryd, rydym yn diwygio’n cynllun gwella hawliau tramwy a bydd aelodau’r Fforwm yn rhan allweddol o’r adolygiad. Y bwriad yw i’r Fforwm gynghori swyddogion a sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud a fydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymarfer corff, gwella llesiant meddwl a rheolaeth y rhwydwaith.” 

Bydd aelodau’n ystyried pob math o fynediad gan gynnwys marchogaeth, seiclo, gyrru oddi ar y ffordd a mynediad ar droed.

Mae rheoliadau’n pennu y dylai’r Fforwm gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn a bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu trefnu os bydd angen gwneud hynny. Nid oes cyflog ond bydd aelodau’r Fforwm yn derbyn eu costau, o fewn rheswm. 

Gall unrhyw un sydd am gael ei ystyried, gysylltu am ragor o wybodaeth â: Beth Jones, Swyddog Hawliau Tramwy / Ysgrifenyddes Fforwm Mynediad Lleol, y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN, neu e-bostio: rightsofway@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni