Ar-lein, Mae'n arbed amser
Adeiladwr Lleol yn cael dirwy a gorchymyn i dalu iawndal am waith nwy anniogel a diffygion Rheoliadau Adeiladu
- Categorïau : Press Release
- 19 Mai 2025

Ar 9 Ebrill 2025, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd Harry Nixon, sy'n masnachu fel HDH Building and Maintenance o Merthyr Tudful, yn euog i droseddau yn erbyn deddfwriaeth Safonau Masnach mewn achos a ddygwyd gan y Gwasanaeth Safonau Masnach. Derbyniodd Nixon ddirwyon am wneud gwaith nad oedd yn cydymffurfio â diwydrwydd proffesiynol yn ei grefft, am waith nwy heb ei gofrestru a pheidio â chadw at reoliadau adeiladu. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu iawndal o £9400 i'r cwsmer.
Cyflogwyd Nixon i gywiro problem lleithder ar hyd un wal mewn cegin. Cynyddodd hyn i 3 wal a tynwyd plastr, gosodwyd byrddau ar y tu mewn i'r waliau a phlastro drostynt. Yn y broses cafodd yr unedau cegin eu tynnu a oedd yn cynnwys hob nwy, a gafodd ei adael wedi'i ddatgysylltu am dros fis wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Ni chwblhawyd y gwaith erioed gan fod y cwsmer wedi colli hyder gyda'r gwaith yn cael ei wneud, a daeth y cwsmer i ben ei dennyn pan oedd plastr gwlyb yn cael ei baentio.
Roedd y cwsmer wedi talu £7,500 o fewn mis, gan godi i £9,400, ond ar ôl bron i ddau fis nid oedd y gwaith wedi'i orffen o hyd. Arhosodd yr hob nwy a'r pibellau wedi'u datgysylltu am fis arall.
Canfu peiriannydd diogelwch nwy a fu’n ymweld â'r eiddo fod gan y pibellau a oedd ar ôl tynnu'r hob nwy,nwy yn gollwng ac roedd yn rhaid iddynt ei wneud yn ddiogel, ar gost bellach i'r cwsmer. Mae'r HSE yn nodi y dylai'r tynnu'r hob nwy fod wedi cael ei wneud gan beiriannydd cofrestredig cymwysedig, ac nad oedd Harry Nixon yn gymwys i wneud y gwaith. Gallai'r canlyniadau fod wedi bod yn drychinebus, i'r cwsmer a'r cymdogion.
Archwiliodd Rheolaeth Adeiladu Cyngor Merthyr Tudful y gwaith hefyd a chanfod nad oedd rheoliadau adeiladu wedi'u dilyn.
Dywedodd Arweinydd Tîm Safonau Masnach Merthyr Tudful, Craig Rushton, "Gall gwelliannau cartrefi fod yn gost sylweddol i berchnogion eiddo. Mae'n bwysig cyn i chi ganiatáu i waith ddigwydd yn eich eiddo gynnal rhai gwiriadau cefndir ar eich adeiladwr. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth os yw'r adeiladwr yn honni i fod yn aelod o gymdeithas fasnach drwy wirio cofrestr y gymdeithas fasnach honno. Os ydych chi'n cael gwaith nwy wedi'i wneud, yna gwiriwch i weld bod y busnes a'r peiriannydd ar y Gofrestr Gas Safe. Gellir gwneud hyn yn hawdd ar wefan Gas Safe. Gallwch hefyd gynnal chwiliadau cyffredinol ar y rhyngrwyd ac yn olaf, sicrhau bod gennych chi gontract ysgrifenedig oddi wrth eich adeiladwr."
Dywedodd Y Cynghorydd Cllr Declan Sammon, Aelod Cabinet dros Trawsnewid, Llywodraethiant a Phartneriaeth Gymdeithasol: “Byddwn yn parhau i amddiffyn trigolion Merthyr Tudful rhag masnachwyr twyllodrus yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, a thu hwnt. Bydd ein Gwasanaeth Safonau Masnach, lle bo modd, yn ymchwilio i fusnesau, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion y Gofrestr Diogelwch Nwy. Mae gan y busnesau hynny sy'n darparu gwasanaethau adeiladu i'n trigolion ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth teg a gonest.”