Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwybodaeth rhwydwaith bysiau lleol ar gyfer Ebrill 2024
- Categorïau : Press Release
- 02 Chw 2024

Daw Cronfa Pontio Bysiau Llywodraeth Cymru, a gefnogodd wasanaethau bysiau ledled Cymru yn ystod ac ers y pandemig, i ben ar Fawrth 31ain 2024. Nid yw lefelau defnyddio bysiau yn agos at lefelau cyn-bandemig o hyd ac felly mae angen cyllid pellach i alluogi gwasanaethau presennol i parhau. Bu'n rhaid i bob awdurdod lleol dendro am y gwasanaethau hynny na fyddai'n rhedeg ar ôl Mawrth 31ain heb gymorth ariannol parhaus.
Mae’r Cyngor hwn wedi cynnal ymarfer tendro llwyddiannus yn ddiweddar a byddai’n cadarnhau, ochr yn ochr â’r gwasanaethau hynny a fydd yn parhau i redeg ar sail fasnachol, y bydd y gwasanaethau a’r gweithredwyr a ganlyn hefyd yn rhedeg o Ebrill 1af 2024 gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, drwy Ranbarth Prifddinas-Caerdydd.
Gwasanaeth 22 – Heolgerrig a Thwynyrodyn Stagecoaech
Gwasanaeth 24 – Abercanaid a Phonsticill Bysiau Mini Peter
Gwasanaeth 25 – Cefn Coed a Threfechan Stagecoach
Gwasanaeth 33 – Galon Uchaf Stagecoach
Anogodd Arweinydd y Cyngor Geraint Thomas drigolion i ddefnyddio’r rhwydwaith bysiau – “Rydym yn ffodus iawn bod Llywodraeth Cymru drwy Ranbarth Prifddinas- Caerdydd yn parhau i gefnogi ein rhwydwaith bysiau lleol yn ariannol, ond byddwn yn annog pobl i ddefnyddio’r gwasanaethau cymaint â phosibl i sicrhau y gellir eu cynnal i’r dyfodol”.