Ar-lein, Mae'n arbed amser

Siop leol wedi derbyn dirwy o dros £10,000 am werthu bwyd dros y dyddiad

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Rhag 2023
Nisa Brecon Road

Mae’r cwmni sy’n rhedeg siop leol wedi’i ddyfarnu’n euog o werthu cynhyrchion bwyd sydd wedi dyddio yn dilyn archwiliad a gynhaliwyd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Cafwyd Kaila & Son Ltd, sy’n rhedeg siop groser yn masnachu fel Nisa Local, 3-4 Vulcan Buildings, Heol Aberhonddu, Merthyr Tudful, yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 23 Tachwedd 2023 ar ôl i Gyfarwyddwr y cwmni, Udam Singh, bledio’n euog i’r gwerthu bwyd anniogel, yn groes i Reoliad 4 o Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004. Cafodd y cwmni ddirwy o £15,000, gostwng i £10,000 am bledio'n euog yn gynnar, a gorchymyn i dalu £543.20 o gostau a gordal dioddefwr o £2,000 gan wneud cyfanswm o £12,543.20.

Canfuwyd bod pecyn o Fron Cyw Iâr Rhost wedi mynd dros ei ddyddiad defnyddio erbyn 08 Ionawr 2023 pan gafodd ei brynu ar 10 Ionawr 2023 gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ystod ymweliad samplu microbiolegol bwyd arferol. Penderfynodd y labordy fod y sampl o ansawdd microbiolegol anfoddhaol.

O ganlyniad, datgelodd ymweliad dilynol â’r siop gan 2 Swyddog o Dîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor amrywiaeth o 27 eitem o fwyd dros eu dyddiad defnyddio, gan gynnwys cynnyrch cig cyw iâr 9 diwrnod dros ei ddyddiad.

Mae bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad 'defnyddio erbyn', yn hytrach na 'ar ei orau cyn', yn cael ei ystyried yn anniogel yn ôl y gyfraith ac mae'n anghyfreithlon i'r eitemau hynny gael eu gwerthu, mae unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cyflawni gweithred droseddol. Cynhyrchion cig oedd y bwydydd oedd wedi dyddio yn Nisa Local yn bennaf. Roedd Mrs Jasvir Kaur, cyd-Gyfarwyddwr Kaila & Son Ltd, wedi cael rhybudd ffurfiol yn flaenorol ym mis Rhagfyr 2021 gan Adran Iechyd yr Amgylchedd mewn perthynas â gwerthu bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio a chynghorwyd hi bryd hynny ynghylch cymryd rhagofalon ynghylch cynnal gwiriadau dyddiol ar fwyd yr oeddynt yn ei werthu.

Cafodd yr holl gynhyrchion a oedd wedi mynd y tu hwnt i'w dyddiad defnyddio eu cymryd o'r safle gan y Swyddogion archwilio. Roedd yn amlwg i Swyddogion nad oedd y busnes yn cynnal gwiriadau cylchdroi stoc dyddiol o fwydydd risg uchel i sicrhau nad oeddent yn cael eu gwerthu y tu hwnt i'r dyddiad defnyddio. Beiodd Mrs Kaur ei staff am beidio â chael gwared ar y bwyd ond esboniwyd mai ei chyfrifoldeb hi fel gweithredwr y busnes bwyd yw sicrhau bod gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu gweithredu.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet Portffolio dros Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd “Heb ymyrraeth Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, yn ddiarwybod i gwsmeriaid, gallai bwyd sydd wedi dyddio fod wedi cael ei fwyta a gallai olygu bod ganddynt salwch a gludir gan fwyd. Mae systemau cylchdroi stoc cadarn yn hanfodol ym mhob busnes bwyd i sicrhau nad yw bwydydd yn cael eu gwerthu y tu hwnt i'w dyddiad defnyddio er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Rwy’n gobeithio y bydd yr erlyniad hwn yn anfon neges glir i unrhyw sefydliad sy’n gwerthu bwyd fod yn rhaid i les y cyhoedd fod wrth wraidd yr hyn a wnânt. Mae angen cynnal safonau uchel a chadw at y gyfraith.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni