Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwahoddiad i landlordiaid lleol i fforwm ar-lein
- Categorïau : Press Release
- 22 Ebr 2022
Mae landlordiaid lleol yn cael eu gwahodd i gyfarfod ar-lein gyda swyddogion y Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn dysgu am newidiadau i’r gyfraith a thueddiadau'r sector rentu breifat a all effeithio arnyn nhw.
Bydd cyfarfod nesaf o Fforwm Landlordiaid Merthyr Tudful yn cael ei gynnal mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent dros Microsoft Teams ddydd Iau nesaf, Ebrill 28.
Anelir y Fforwm at landlordiaid sy’n berchen ac yn rhentu eiddo preswyl ym Merthyr Tudful neu mewn awdurdodau lleol cyfagos.
Mae’n rhoi cyfle i staff y Cyngor I gefnogi a hysbysu landlordiaid am newidiadau polisi allweddol yn y sector rentu preifat ac yn hyrwyddo arfer dda.
Mae hefyd yn rhoi llais i landlordiaid i drafod materion sy’n eu pryderu am y busnes ac yn gyfle i rwydweithio.
Bydd Simon White o Lywodraeth Cymru yn siarad am Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016, a Gill Owens o ? yn siarad am ‘Dueddiadau yn y farchnad sector rhentu preifat’.
Bydd swyddogion tai lleol yn diweddu'r cyfarfod gyda throsolwg o gynllun Prydles y Sector Preifat a thrafod materion perthnasol eraill.
Bydd y cyfarfod rhwng 10am-12pm. Dylai unrhyw un gyda diddordeb mynychu'r cyfarfod neu gyfarfodydd eraill yn y dyfodol gysylltu gyda Swyddog Sector Rhentu Preifat CBSMT Craig Hughes ar 07598 404368 neu e-bostio craig.hughes@merthyr.gov.uk i archebu lle.