Ar-lein, Mae'n arbed amser

Artist stryd lleol yn trawsnewid lôn canol y dref

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Ebr 2025
Hong Kong Alley - Cllr Anna Williams Price

Mae Tee2Sugars, artist stryd lleol yn Ne Cymru, wedi trawsnewid ardal o ganol tref Merthyr Tudful, gan droi stryd fechan segur yn ddarn o gelf bywiog a lliwgar.

Yn ystod prosiect cymunedol a ariennir gan y GFfG, gweithiodd Tee2Sugars ochr yn ochr â phobl ifanc o'r ardal i ddod o hyd i'r thema 'pobl nodedig o Ferthyr Tudful, y gorffennol a'r presennol', a gwahoddwyd aelodau o'r gymuned hefyd i helpu gyda'r gwaith celf.

Wedi'i ysbrydoli gan chwedlau lleol, mae'r gwaith celf yn cynnwys lluniau o'r bocswyr Johnny Owen, Howard Winstone ac Eddie Thomas, yn ogystal â'r dylunwyr ffasiwn Laura Ashley a Julien Macdonald. Mae'r murlun hefyd yn cynnwys y slogan "YOU CAN DO BIG THINGS" i ysbrydoli pobl ifanc Merthyr Tudful.

Dywedodd y Cynghorydd Anna Williams-Price, Aelod Cabinet dros Lywodraethu ac Adnoddau: "Roedd Hong Kong Alley wedi cael ei thrafod mewn llawer o gyfarfodydd partneriaeth diogelwch cymunedol ac fe'i cydnabuwyd fel lleoliad sy'n agored i ymddygiad gwrthgymdeithasol a graffiti. Yn hytrach na chau'r ardal, fe wnaethom benderfynu ar ddull gwahanol, a gofyn i Tee2Sugars weithio ei hud creadigol i'w droi'n waith celf llachar a beiddgar.

"Mae Merthyr Tudful yn enwog am ei effaith fyd-eang o ran chwaraeon ymladd, felly mae cydnabod cyflawniadau rhai o'n harwyr lleol drwy'r gwaith celf hwn yn ffordd bwerus o dalu parch iddynt ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Cynhwyswyd lluniau o'r dylunwyr ffasiwn lleol Laura Ashley a Julien Macdonald hefyd i gynrychioli eu doniau o'r radd flaenaf.

"Roedd yn bwysig i ni fod hwn yn brosiect dan arweiniad y gymuned, ac rydym wrth ein bodd bod cymaint o bobl wedi cymryd rhan. Fel cydnabyddiaeth i'w gwaith caled, mae Tee2Sugars wedi paentio calonnau ar y ddwy fynedfa i'r lôn, un ar gyfer pob person a helpodd i'w baentio.

"Mae'r canlyniadau gorffenedigl yn ofod hynod llachar a lliwgar, yr ydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr â chanol y dref yn gwneud defnydd da ohonno!"

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni