Ar-lein, Mae'n arbed amser

Masnachwr lleol wedi'i ddedfrydu yn dilyn erlyniad Safonau Masnach

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Tach 2026
Prosecuted WELSH

Mae masnachwr lleol a dderbyniodd daliadau gan ddefnyddwyr ledled De Cymru gan fethu â chyflawni gwaith dan gontract wedi cael ei ddedfrydu yn dilyn erlyniad a gyflwynwyd gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sir Merthyr Tydfil.

Ymddangosodd Paul Pedler, sy'n masnachu fel L&F Fabrication and Fencing Ltd, gerbron Llys y Goron Merthyr ar 4 Tachwedd 2026 i'w ddedfrydu, ar ôl pledio'n euog o'r blaen i droseddau o dan ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr.

Dilynodd yr erlyniad sawl cwyn gan ddefnyddwyr a oedd wedi ymrwymo i gytundebau â Pedler ar gyfer gosod ffensys, gatiau, rheiliau, balconïau a gwaith cysylltiedig. Ym mhob achos, talodd cwsmeriaid flaendaliadau sylweddol, sef hanner pris y contract y cytunwyd arno, ar ôl cael sicrwydd y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau.

Cyflwynwyd tystiolaeth i’r llys gan bum cwsmer, er gwaethaf addewidion dro ar ôl tro dros gyfnodau estynedig, fod y gwaith naill ai wedi methu â dechrau neu eu bod o safon wael ac na chawsant eu cwblhau. Gwnaeth cwsmeriaid nifer o ymdrechion i gysylltu â Pedler drwy alwadau ffôn, negeseuon ac ymweliadau â'i safle busnes a hynny mewn ymdrech i sicrhau fod y gwaith yn cael eu cwblhau neu gael ad-daliadau. Ni wireddwyd yr un ohonynt.

Wrth ddedfrydu, tynnodd y Barnwr sylw at yr effaith ar y dioddefwyr a dywedodd: "Roedd hon yn ffordd erchyll o ymddwyn. Roedd yn peri gofid a'r unig beth roedden nhw ei eisiau oedd gwaith rhesymol wedi’i gwblhau. Doeddech chi ddim yn cymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd ac yn cuddio mewn diod a chyffuriau. Dim ond dedfrydau carchar sy'n gyfiawn."

Gosododd y Llys y ddedfryd ganlynol:

  • Chwe mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis
  • Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu (RAR) o 10 diwrnod
  • 200 awr o waith di-dâl
  • Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am chwe blynedd yn gwahardd Pedler rhag:
    • Ymgymryd â gwaith adeiladu, naill ai'n bersonol neu drwy drydydd partï, yn ystod masnach neu fusnes mewn unrhyw annedd feddiannol ac eithrio mewn swydd gyflogedig
  • Gordal Dioddefwyr
  • Gorchmynion Iawndal a Chasglu sy'n gofyn am daliadau o £200 y mis

Dywedodd Y Cynghorydd David Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinetr dros Cymunedau a Newid Hinsawdd: "Derbyniodd y diffynnydd daliadau dro ar ôl tro a gwnaeth addewidion na lwyddodd i'w cadw, gan adael cwsmeriaid yn rhwystredig, mewn trallod ac mewn anfantais ariannol. Mae'r ddedfryd hon, ynghyd â'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, yn anfon rhybudd clir y gall masnachwyr sy'n cymryd rhan yn y math hwn o ymddygiad ddisgwyl wynebu canlyniadau sylweddol."

Mae Cyngor Bwrdeistref Sir Merthyr Tudfil yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu defnyddwyr rhag arferion masnachu annheg a sicrhau bod busnesau'n gweithredu'n deg ac yn gyfreithlon.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni