Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwesty moethus yn agor ar safle becws hanesyddol lleol ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 23 Hyd 2023

Yr Hydref hwn, bydd canol tref Merthyr Tudful yn gweld gwesty moethus newydd yn agor – o fewn adeilad hanesyddol becws, Howfield’s & Son (sefydlwyd. 1921).
Mae disgwyl i’r gwesty fod ar agor o fis Tachwedd 2023.
Bydd Datblygiad tua £2m Gwesty Howfields yn gweld agor bwyty moethus, bar a 13 o fflatiau preifat moethus – gan ddod a chyfnod newydd modern a gwedd osgeiddig i ganol y dref.
Wrth y llyw ar y project mae’r cwmni datblygu o Lyn-nedd, RWP Properties, sydd wedi buddsoddi'n sylweddol yn y fenter.
Dywedodd Cyfarwyddwr RWP Properties, Richard Powell: “Rwyf wedi bod yn gwylio datblygiad canol tref Merthyr Tudful gyda diddordeb mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod yn rhyfeddol gweld nid yn unig maint ac ansawdd y projectau sydd ar y gweill, ond hefyd dyfodiad cymaint o fusnesau annibynnol cyffrous. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair ym Merthyr Tudful - fe wnaethom neidio ar y cyfle i fod yn rhan ohono.”
I gydnabod yr effaith y bydd y project yn ei chael ar ganol y dref, derbyniodd RWP Properties hefyd gymorth gwerth £770k gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Canolbwynt y datblygiad fydd y gwesty moethus, a fydd yn cynnig wyth ystafell wely ddwbl - pob un wedi'i ffitio â dodrefn hardd ac amwynderau, gyda'r nod o ddenu teithwyr hamdden a busnes sy'n chwilio am arhosiad moethus a chyfforddus.
Fodd bynnag, mae cynnwys bwyty uchel ei barch o Abertawe, Haystack, a bar newydd chwaethus — o’r enw ‘Needle’ yn ychwanegu mwy o gyffro i’r datblygiad.
Gan ehangu o Abertawe i'r Cymoedd, bydd Haystack ym Merthyr Tudful yn gweini brecwast, cinio a bwydlenni gyda'r nos, gan ddarparu prydau blasus sy'n darparu ar gyfer pob chwaeth. Bydd y busnes hefyd yn manteisio ar deras allanol yng nghefn yr eiddo — gan gynnig profiad bwyta hudolus o fewn amgylchedd cyfforddus.
I gydnabod pwysigrwydd cefnogi busnesau lleol, mae RWP Properties hefyd wedi ymrwymo i gynnal caffi poblogaidd, Café N Joy — sydd eisoes yn bodoli o fewn yr eiddo. Mae’r caffi cyfan wedi cael ei adnewyddu’n feddylgar, trwy garedigrwydd RWP, bydd hyn yn cyfrannu ymhellach at arlwy goginiol fywiog canol y dref.
Yn y cyfamser, bydd cyfleusterau newydd eraill yn cynnwys ardal cloi beiciau mewnol pwrpasol — arlwyo wedi ei anelu at feicwyr ac annog teithio cynaliadwy yng nghanol y dref gyda loceri diogel, offer glanhau, a man atgyweirio sydd â phwmp aer ynddo yma hefyd.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Eiddo RWP, Richard: “Ein gweledigaeth ar gyfer ailddatblygu’r adeilad poblogaidd hwn oedd creu gofod sy’n dathlu hanes y dref tra’n darparu profiad cyfoes, uwchraddol i ymwelwyr — ac rwy’n teimlo mai dyna’n union yr ydym wedi’i gyflawni.
“Hoffwn estyn fy niolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i wneud y fenter uchelgeisiol hon yn bosibl. Fel y Cyngor, rydym yn gweld addewid mawr yn nyfodol y dref fel cyrchfan dwristaidd ffyniannus — ac mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’r daith ehangach.
“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid i brofi ein cyfuniad pwrpasol o hanes, moethusrwydd, ciniawa eithriadol, ac aros dros nos mewn lleoliad moethus. Gyda’n gilydd, gyda chefnogaeth y gymuned a’r Cyngor, ein nod yw creu cyrchfan nodedig a fydd yn serenu yng nghanol Merthyr Tudful am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y Cyng. Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd: “Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar am ddyfodiad yr ychwanegiad soffistigedig a bywiog hwn i ganol tref Merthyr Tudful — fe fydd yn sicr yn dod ag ymdeimlad o falchder i bobl leol a diddordeb newydd mewn. twristiaid o'r Cymoedd ehangach, Caerdydd a thu hwnt.
“Mae’n amlwg bod gweledigaeth RWP Properties yn cyd-fynd â gweledigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’n Prif Gynllun canol tref ehangach—sy’n ceisio trawsnewid Merthyr Tudful yn brifddinas twristiaeth y Cymoedd erbyn 2035. Hoffwn longyfarch pawb a gymrodd rhan wrth i ni i gyd edrych ymlaen at ddyfodol llawn posibiliadau i Ferthyr Tudful.”