Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwaith Adnewyddi Pwysig i Adfywio Castell Cyfarthfa
- Categorïau : Press Release
- 16 Rhag 2025
Mae gwaith adnewyddi sylweddol ar fin cychwyn er mwyn adfywio Castell Cyfarthfa, a’r gwaith pwysig hwn yn cychwyn yn Ionawr. Bydd y gwaith adnewyddu cynhwysfawr yn ymateb i anghenion strwythurol ac yn diogelu’r adeilad hanesyddol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys gwaith to ar raddfa fawr, a gwaith atgyweirio i’r ffenestri cyfredol, yn ogystal ag addurno’r ystafelloedd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i warchod a mireinio’r adeilad hanesyddol. Er y bydd yr amgueddfa a’r ystafelloedd bwyta ar gau dros dro, bydd gerddi’r castell yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd allu eu mwynhau.
Dylai ymwelwyr nodi rhai newidiadau dros dro:
- Bydd yr amgueddfa ar gau o 4pm ar 23ain o Ragfyr
- Ni fydd yn bosib parcio ar flaen-gwrt y castell
- Bydd y gerddi’n parhau i fod ar agor i drigolion ac ymwelwyr.
Mae’r prosiect adnewyddu’n cynrychioli ymrwymiad sylweddol i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Merthyr Tudful. Bydd y gwelliannau manwl yn gymorth i warchod strwythur hanesyddol y castell a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn arwyddnod cymunedol pwysig.
Meddai Brent Carter, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r adnewyddiad hwn yn fuddsoddiad hanfodol i’n treftadaeth leol. Rydym wedi ymrwymo i gynnal Castell Cyfarthfa’n ased cymunedol gwerthfawr a bydd y gwaith hwn yn sicrhau ei ansawdd strwythurol am flynyddoedd i ddod.”
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
👤Tîm yr Amgueddfa
📧museum@merthyr.gov.uk
📞01685 727371 / 01685 725000