Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sicrhau dathlu diogel i breswylwyr
- Categorïau : Press Release
- 24 Tach 2021

Mae’r Cyngor, yr Heddlu a busnesau lletygarwch lleol yn cydweithio er mwyn sicrhau fod preswylwyr ac ymwelwyr yn mwynhau nosweithiau diogel allan ynghanol y dref y Nadolig hwn.
Mae Heddlu De Cymru yn darparu hyfforddiant i staff tafarndai, clybiau a thai bwyta ar sut i fod yn ymwybodol o bobl allai fod mewn sefyllfaoedd sydd yn agored i niwed a bydd y Cyngor yn gofyn i yrwyr tacsi fod ar eu gwyliadwriaeth, yn ogystal.
Mae’r ymgyrch yn ychwanegol i’r ymgyrch Strydoedd Mwy Diogel a’r camerâu CCTV newydd sydd wedi eu gosod yng nghanol y dref. Mae’r camerâu hyn wedi bod yn allweddol yn barod er mwyn cynorthwyo’r heddlu â’i hymchwiliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin O’Neill, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd: “Pob Nadolig, mae’n tîm trwyddedu’n gweithio’n galed er mwyn sicrhau fod economi’r nos yn ddiogel a hynny o hyrwyddo menter ‘Gofynnwch am Angela’ mewn tafarndai i annog y cyhoedd i ddefnyddio tacsis trwyddedig yn unig.
“Llynedd, wrth gwrs mi roedd hi’n dawel gan ein bod yn y cyfnod clo. Eleni, rydym yn disgwyl cyfnod prysurach na’r arfer o ddathliadau gan na wnaethpwyd hynny yn 2020.
“Rydym hefyd yn ymateb yn sgil y sylw cenedlaethol sydd yn cael ei roi ar hyn o bryd i ferched mewn amgylchedd fel hyn.”
Dywedodd yr Arolygydd Heddlu lleol, Jon Duckham: “Mae gan ganol tref Merthyr Tudful gymaint i’w gynnig ac wedi blwyddyn o gyfyngiadau a gafodd effaith ar Nadolig pawb y flwyddyn ddiwethaf, bydd llawer o bobl yn edrych ymlaen at yr hyn sydd ar y gorwel.
“Mae’r dref bob amser wedi bod yn lle cymharol ddiogel ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr. Yn sgil y buddosoddiad diweddar mewn technoleg CCTV fodern ynghanol y dref a’r cydweithio â gweithwyr allweddol economi’r nos fel staff bar a gyrwyr tacsi, bydd canol y dref yn fwy diogel nag erioed.
“Fy neges i bawb yw i fwynhau eu hunain ond gwnewch hynny’n gyfrifol gan edrych ar ôl eich hunain a’ch ffrindiau.”
Bydd ‘hyfforddiant peryglon posib’ yr Heddlu yn ceisio annog gweithwyr yn y maes lletygarwch i fod ar eu gwyliadwriaeth a nodi cwsmeriaid a theithwyr sydd yn ddigalon, wedi eu hanafu neu sydd i weld yn anghyfforddus.
Byddwn hefyd yn gofyn i yrwyr tacsi edrych am arwyddion o gamdriniaeth ddomestig; boed hynny wedi digwydd yn barod neu ei fod yn debygol o ddigwydd wedi i gyplau ddychwelyd adref a chadw golwg ar deithwyr ifanc sydd yn teithio i wahanol leoliadau ac sydd o dan reolaeth oedolyn.