Ar-lein, Mae'n arbed amser
‘Parc Marcia’ yn coffau preswylydd Twyncarmel sy’n cael ei cholli’n fawr
- Categorïau : Press Release
- 26 Hyd 2022
Mae maes chwarae plant sydd wedi ei adleoli a’i ailadeiladu gydag offer newydd i’w enwi ar ôl preswylydd lleol sy’n cael ei cholli’n fawr.
Mae cyn maes chwarae Twyncarmel - sydd wedi bod ar gau ers sawl blwyddyn oherwydd materion diogelwch - wedi ei ail leoli a bellach bydd yn cael ei adnabod fel Parc Marcia er cof am Marcia Probert, a oedd yn aelod o un o’r teuluoedd cyntaf i fyw ar y stad pan agorodd yn 1981.
“ Adwaenir Marcia fwyaf dan ei henw bedydd Marcia James, ac roedd ymysg tenantiaid cyntaf Twyncarmel ac yn drist iawn, bu farw o leukaemia 22 mlynedd yn ôl pan yn ddim ond yn 34 oed.” Meddai Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Geraint Thomas.
“Mae ei phlant, wyrion a’r teulu estynedig yn dal i fyw yno. Mae coffa da amdani, ac rydym yn credu ei bod yn briodol enwi’r parc ar ei hol,” ychwanegodd.
Roedd y project yn bartneriaeth rhwng y Cyngor Bwrdeistref Sirol- a fuddsoddodd £70,000 mewn offer chwarae – a Chymdeithas Dai Wales and West, a ddarparodd £10,000 ar gyfer dau lwybr a gatiau mynediad.
Bydd Parc Marcia yn cael ei agor yn swyddogol gan y Maer, y Cynghorydd Declan Sammon am 11am ddydd Sadwrn hwn, Hydref 29.