Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bydd canol y dref yn arallgyfeirio ac yn ffynnu yn sgil ‘cynllun meistr’

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Gor 2021
Merthyr Redhouse web.jpg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol hir dymor i helpu Merthyr Tudful i fynd yn groes i’r duedd genedlaethol ble mae’r stryd fawr yn dirywio, a thrawsnewid canol y dref i fod yn ganolfan ffyniannus.

Mae tîm o ddylunwyr trefol, arbenigwyr eiddo masnachol ac arbenigwyr peirianneg sy’n darparu cyngor trafnidiaeth wedi llunio Cynllun Meistr Canol y Dref dros gyfnod o 15 mlynedd.

Gweledigaeth y ‘cynllun creu lleoedd’ yw y bydd gan ganol y dref, erbyn 2035, adeiladau ansawdd uchel ar gyfer preswylio, swyddfeydd, hamdden a manwerthu. Bydd sgwariau cyhoeddus newydd, gwagleoedd gwyrdd a ‘glan yr afon fywiog’. Dywed mai’r nod yw creu canol i’r dref sydd ‘â strydoedd sy’n gwahodd, sgwariau a llwybrau ble y bydd pobl yn teimlo wedi eu croesawu a’u calonogi.’

Cafodd y ddogfen ei chomisiynu gan y Cyngor, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru – a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled y wlad – ac a gaiff ei ddisgrifio wedi ei seilio ar ‘uchelgais a rennir ar gyfer y dref a’i rôl o fewn y Brifddinas-Ranbarth’.

Cafodd ei gynhyrchu gan gwmni The Urbanists, sef cwmni dylunio, cynllunio a thirlunio ar y cyd â’r ymgynghoriaeth beirianyddol, Mott MacDonald a’r ymgynghorwyr eiddo masnachol Alder King.

Cafodd dau brif brosiect eu dynodi i roi cychwyn ar drawsffurfio canol y dref: adfywio’r hen orsaf fysiau ar safle Maes y Clastir a’r orsaf reilffordd. Mae’r Cyngor yn chwilio am opsiynau ar gyfer safle Maes y Clastir, a bydd yn ymgynghori â  busnesau a phreswylwyr canol y dref, gyrwyr tacsi, siopwyr a’r gymuned ehangach i helpu i siapio datblygiad.

“Rydym yn gyffrous iawn am y cynllun meistr, a fydd yn cydweddu asedau unigryw Merthyr Tudful gydag eiddo a gwasanaethau o ansawdd uchel a gwagleoedd cyhoeddus deniadol,” dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Mae gwaith eisoes wedi bod yn mynd rhagddo gydag agoriad ein cyfnewidfa fysiau newydd deniadol, a bydd preswylwyr yn gweld y gwahaniaeth dros y misoedd nesaf, gyda phrosiectau cyffrous niferus yn gwella canol y dref.”

Mae’r cynllun meistr yn cymryd lle Cynllun Adfywio Merthyr Tudful 2002, a arweiniodd at greu Sgwâr Penderyn a’r Chwarter Dysgu, ailwampio Neuadd y Dref, Merthyr i fod yn Ganolfan Red House ar gyfer y Celfyddydau a Diwylliant, trawsffurfio Avenue de Clichy a Menter Treftadaeth Tirlun Pontmorlais.  

Ymhlith y cynigion mae’r canlynol:

  • Ailddatblygu’r orsaf reilffordd i greu porth croesawgar a phleserus a chysylltu â’r Stryd Fawr a’r gyfnewidfa fysiau newydd.
  • Adfywio a gwella arwyneb adeiladau ar y Stryd Fawr a’r ffyrdd croestoriadol.
  • Adfywiad o’r tirlun traddodiadol, gan ganolbwyntio’n benodol ar Adeiladau Rhestredig amlwg o werth cymdeithasol, hanesyddol a/neu bensaernïol.
  • Darparu cyfleoedd newydd i arallgyfeirio yng nghanol y dref.
  • Newid defnydd i gynyddu’r nifer o gartrefi, gwestai a gwagleoedd gwaith yng nghanol y dref .
  • Gwell llwybrau i gerddwyr a seiclwyr a phompren newydd i sefydlu ‘glan yr afon sy’n fywiog, yn gysylltiol ac actif’.

Mae’r cynllun meistr yn disgrifio ei uchelgais ar gyfer Merthyr Tudful i ddyfod yn ‘brifddinas twristiaeth y Cymoedd a Bannau Brycheiniog’ gyda chysylltiadau at Gynllun Meistr Ardal Dreftadaeth Cyfarthfa.

Ei nod hefyd yw dyfod yn dref garbon isel ‘sydd wedi ei chynllunio ar gyfer anghenion 21 ganrif’ o ran defnydd isel o ynni ac effaith amgylcheddol; ‘tref ar lan y dŵr sy’n gwneud defnydd llawn o’i lleoliad ar lannau Afon Taf’; a ‘thref ddeallus...tref sy’n ddigidol rugl fel bod busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion yn gallu cipio buddion technoleg a chymhwyso data.’

Casgliad y Cynllun yw: “Mae gan Ferthyr Tudful asedau naturiol a hamdden grêt ar stepen ei drws a gall chwarae rôl uwch yn rhanbarthol gyda gwelliannau sydd ar ddod yn sgil Metro De Cymru. Ceir cyfle yma i fynd yn groes i’r duedd genedlaethol ble mae’r stryd fawr yn dirywio, a thrawsnewid canol tref Merthyr i fod yn ffyniannus.”

  • Bydd yr uwchgynllun llawn yn cael ei rannu gyda'r cyhoedd yn y dyfodol agos.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni