Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Yn y Cyfamser yn dod â bwydydd wnaed o blanhigion a dillad cyfandirol i’r dref
- Categorïau : Press Release
- 01 Tach 2019
Gwaredodd siwgr, bwydydd wedi eu prosesu a chaffîn, dechreuodd seiclo gan gwblhau taith noddedig 100m a chollodd 6 stôn o bwysau.
“Newidiais fy ffordd o fyw wyth mlynedd yn ôl a dwi wedi bod yn bwyta bwydydd wnaed o blanhigion ers tair blynedd. Achubodd hyn fy mywyd. Mi rydych chi’r hyn rydych yn ei fwyta – mae hynny’n bendant.”
Darganfyddodd Mark gynllun Yn y Cyfamser y Cyngor, sef partneriaeth i wella golwg canol y dref drwy wneud defnydd o adeiladau gwag unwaith yn rhagor.
Daeth swyddogion datblygu economaidd y Cyngor, Canolfan Menter Merthyr Tudful, Tydfil Training, Busnes Cymru a pherchnogion eiddo at ei gilydd i roi cymorth gan gynnwys paratoi cynlluniau busnes a dod o hyd i safle byr dymor rhent isel a heb rent.
Helpodd Mark i lunio’r cynllun busnes a dod o hyd i adeilad â rhent gostyngedig. Cafodd grant hefyd tuag at ailwampio’r adeilad, gan ei alluogi i fasnachu.
Bydd Natalia, sydd â phrofiad arlwyo ac sydd hefyd yn bwyta bwydydd wnaed o blanhigion, yn helpu i baratoi’r bwyd gan gynnwys danteithion blasus fel wraps ffalaffel a phatis, blychau salad a llawer mwy.
Bydd y siop a’r caffi i ddechrau ar agor am chwe diwrnod yr wythnos o 11am-4.30pm, gan hefyd ddarparu gwasanaeth archebu a chludo bwyd i fusnesau lleol yn yr ardal.
Lawr grisiau yn y ganolfan siopa yn Llwybr Newydd y Farchnad, mae Siop Ddillad ac Oriel Gelf Paula, sef syniad y cyn berchennog gwesty yng Nghaerdydd, Andrew Owen a Gary Bailey, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad mewn manwerthu.
Ar ôl iddynt agor eu siop gyntaf gyda’i gilydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, symudodd y partneriaid ymlaen at Ferthyr Tudful, gyda Gary – a oedd yn rheolwr rhanbarthol New Look yng Nghymru a’r De-Orllewin – ac Andrew yn gyfarwyddwr i’r siop, a chwaer yng nghyfraith Andrew, Paula Owen o Dreharris, y rheolwr.
Mae stoc Paula’s yn cynnwys amrywiaeth eang o ddillad o ansawdd da i fenywod o’r Eidal a Ffrainc. “Ar hyn o bryd y dull Lagenlook Ewropeaidd sydd yno’n bennaf sef gwisgo dillad mewn haenau sy’n gweithio’n dda i bob math o siâp corff, gan fynd i fyny i faint 26,” dywedodd Paula. “Mae’n hawdd gofalu am y dillad, mae’n golchi’n dda a does dim angen ei smwddio.”
Mae’r siop yn reiat o liwiau tymhorol a bydd y ffabrig yn newid i ddeunydd ysgafnach cotwm a lliain Eidalaidd yn yr haf. Mae yno hefyd esgidiau, gemwaith, sgarffiau cashmere ac oriel gelf yn gwerthu peintiadau a phrintiau cyfoes.
Mae’r triawd yn disgrifio’r hyn gaiff ei gynnig fel ‘dillad steil boutique am brisiau’r stryd fawr’. “Mae e’n edrych yn ddrud ond mae’n anhygoel faint o werth am arian yw e,” dywedodd Andrew. “Dydyn ni ddim yn ychwanegu llawer at y gost wreiddiol.” Mae Paula ar agor chwe diwrnod yr wythnos o 9am-5.30pm.
Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas fod 18 o fusnesau wedi agor bellach ym Merthyr Tudful ers i’r cynllun ddechrau bedair blynedd yn ôl.
“Mae canol y dref yn parhau i ddatblygu diwylliant o siopau annibynnol niche sy’n hybu ein heconomi fywiog ac amrywiol, ac mae’r ddau fusnes yma’n ychwanegiadau sydd i’w croesawu.”
Os hoffech gael peth cymorth oddi wrth gynllun Yn y Cyfamser, cysylltwch â Chanolfan Menter Merthyr Tudful ar 01685 727509.