Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Yn y Cyfamser yn dod â blas y Caribî i ganol y dref
- Categorïau : Press Release
- 02 Mai 2019
Mae’r amrywiaeth o fwydydd sydd ar gael ym Merthyr Tudful wedi ehangu ymhellach gydag agoriad tŷ bwyta Caribïaidd cyntaf y dref, sef ychwanegiad diweddaraf y Cyngor Bwrdeistref Sirol i’r fenter arloesol ‘Yn y Cyfamser’.
Mae Caribbean Cariad yn dod â blas Bae Montego i’r Stryd Fawr - diolch i Michael Hamilton o ganolbarth Lloegr, ond sydd â’i deulu’n hanu o ddinas enwocaf Jamaica.
Gwireddwyd cenhadaeth Michael sef cyflwyno Merthyr i bleserau cyw iâr jerc gyda chymorth oddi wrth gynllun Yn y Cyfamser, sef ymagwedd bartneriaeth sy’n gwella golwg canol y dref drwy roi bywyd yn ôl i mewn i adeiladau gwag.
Ymunodd swyddogion datblygu economaidd y Cyngor, Canolfan Menter Merthyr Tudful, Tydfil Training, Busnes Cymru a pherchnogion eiddo gyda’i gilydd i ddarparu cefnogaeth gan gynnwys paratoi cynlluniau busnes a dod o hyd i lety byr dymor heb rent.
Mae cyfanswm o 15 o fusnesau wedi agor ym Merthyr Tudful ers i’r cynllun ddechrau bedair blynedd yn ôl - Caribbean Cariad yw’r unfed ar bymtheg.
Llynedd, roedd Michael yn byw yn Aberdâr ac yn gweithio yn Greggs yn Nhrefforest a choginio mewn tafarn leol yn rhan amser. Cafodd wahoddiad i gymryd rhan yng Nghŵl Fwyd Merthyr 2018, ac roedd ei arddangosiad coginio byw yn boblogaidd iawn, felly penderfynodd fynd amdani ac agor ei dŷ bwyta ei hun.
Ar ôl misoedd o gefnogaeth, mentora, cyrsiau hyfforddi a chynlluniau busnes, daeth adeilad addas i fod ar gael ac agorodd Caribbean Cariad ym mis Ebrill. Ymhlith y seigiau mae ackee a plantain, ffriters pysgod halen, cyri cig gafr a melysfwyd fel teisen gaws coconyt a leim.
Dywedodd Michael: “Bu’n uchelgais ers yn hir i ddod â bwyd y Caribî i gymuned y Cymoedd, ac rwyf wrth fy modd o gael y cyfle hwn gyda chymorth prosiect gwych y Cyngor, Yn y Cyfamser.”
Dywedodd Prif Swyddog y Cyngor dros Adfywio’r Gymuned, Alyn Owen: “Mae canol y dref yn parhau i dyfu diwylliant o siopau annibynnol ‘niche’ sy’n hybu ein heconomi bywiog ac amrywiol, ac mae cynllun Yn y Cyfamser wedi helpu amrywiaeth eang o fusnesau.
“Derbyniodd y cyw entrepreneur, Michael, lawer iawn o anogaeth oddi wrth Ganolfan Menter Merthyr Tudful, Tydfil Training a Busnes Cymru. Hoffem hefyd ddiolch i’r landlord John Barbuti am ei barodrwydd i gefnogi Michael a’i ddealltwriaeth o’r prosiect Yn y Cyfamser.”
• Os hoffech gael peth cefnogaeth oddi wrth Yn y Cyfamser, cysylltwch â Chanolfan Menter Merthyr Tudful ar 01685 727509.