Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gofalwr maeth o Merthyr Tudful yn dod â ‘rhywbeth at y bwrdd’ i gefnogi pobl ifanc yn yr ardal.

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Mai 2024
Foster Care Fortnight

Mae Julie  yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiadau o faethu yn annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr.

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru Merthyr yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

Mae ymchwil ddiweddar gan Maethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol – yn dangos nad yw pobl yn gwneud cais i ddod yn ofalwyr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a’r profiad ‘cywir’.

Yn eu llyfr newydd – Dewch â rhywbeth at y bwrdd – mae Maethu Cymru’n tynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig – megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda’r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

Mae gan Dewch â rhywbeth at y bwrdd dros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; beirniad Young MasterChef, Poppy O’Toole; a’r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys yr athletwraig ac ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a fu mewn gofal.

Fe gyfrannodd cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a’r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean ryseitiau hefyd – gan dynnu o’u profiadau personol fel gofalwyr maeth.

Dywedodd Julie, ein gofalwr maeth Maethu Cymru ym Merthyr:

“Mae’n bwysig i blentyn wybod ei fod yn cael prydau maethlon a blasus yn rheolaidd… mae rhai plant yn cuddio bwyd oherwydd nid ydynt yn gwybod pryd mae’r pryd nesaf yn dod neu’n mynd i banig pan fydd oedi gyda’u bwyd.

Mae bwyd yn gysur ac yn lleddfol i blentyn, maen nhw'n mwynhau bwyd ac yn edrych ymlaen at amserau bwyd. Mae'n rhoi ymdeimlad o sicrwydd i'r plentyn ac yn ei helpu i dyfu a datblygu. Mae bwyd yn helpu plant i deimlo’n gartrefol ac yn ddiogel, ac felly maent yn fodlon yn y cartref ac yn teimlo’n ddiogel'.

 

Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu profiadau go iawn

I lansio’r llyfr bydd Colleen Ramsey, awdur ‘Bywyd a Bwyd, Life Through Food’, yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Byddant yn dysgu rysáit newydd  a sgiliau coginio hollbwysig i gymryd gyda nhw i’w bywydau annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y llyfr coginio hefyd.

Sophia Warner, Cymraes sy’n ddarlunydd, ymgyrchydd ac yn berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal greodd ddarluniau a rhagair y llyfr:

“Pan oeddwn i’n iau, dw i’n cofio croesholi fy mam faeth ynglŷn â tharddiad y bwyd y byddai’n ei baratoi. Roeddwn i’n mynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, sef milltir sgwâr fy mhlentyndod. Fe ysgrifennais ‘Bolognese Aberhonddu’ ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

“Mae’r rysáit yn annwyl iawn i mi, gan mai dyma’r pryd o fwyd cyntaf ges i pan symudais i mewn i'm cartref maeth. Soniais fod fy mam enedigol arfer ei baratoi i mi, ac aeth fy mam faeth ati i’w baratoi i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, cefais deimlad cynnes – teimlais fy mod yn perthyn a chefais groeso cynnes.”

 

Mae angen rhagor o deuluoedd maeth ledled Cymru

Bob mis Mai mae Pythefnos Gofal Maeth™ – ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Mae’r ymgyrch yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr maeth.

Yng Nghymru mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Mae Maethu Cymru wedi cychwyn ar eu nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Gwnaeth y Cynghorydd Julia Jenkins, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol y sylw:

“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr ymroddiad a’r gefnogaeth anhygoel y mae ein gofalwyr maeth yn eu darparu i blant a phobl ifanc bregus ein cymuned.

Mae Pythefnos Gofal Maeth yn amser arbennig i ni gydnabod a dathlu popeth a wnânt, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae eu hymrwymiad, eu hanhunanoldeb a’u tosturi yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai sydd yn eu gofal, ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu cyfraniadau amhrisiadwy.”

Bydd y llyfr coginio’n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru, a gellir lawrlwytho fersiwn digidol o: fosterwales.gov.wales

Er mwyn darganfod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/ 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni