Ar-lein, Mae'n arbed amser

Preswylwyr Merthyr yn mynychu digwyddiad hyrwyddo’r Gymraeg.

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 12 Gor 2022
Picture1 (6)

Heddiw, mynychodd preswylwyr, Hyb Cymunedol Twyn ar gyfer digwyddiad hyrwyddo’r Gymraeg gan ddysgu cymunedol oedolion, un o 6 digwyddiad sydd yn cael ein cynnal ar draws y Fwrdeistref Sirol drwy gydol Gorffennaf ac Awst.

Roedd hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau hyrwyddo sydd wedi ei sefydlu i hyrwyddo'r manteision o ddysgu Cymraeg. Maent hefyd yn hyrwyddo gwerth addysg gyfrwng Cymraeg gan annog y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd swyddog datblygu Dysgu Cymraeg Morgannwg yn bresennol ym mhob digwyddiad gan roi’r cyfle i bawb weld pa gyrsiau Cymraeg sydd ar gael, waeth beth yw lefel eu Cymraeg.

Mae’r camau y mae’r Cyngor wedi eu cymryd gyda'i phartneriaid Dysgu Cymraeg Morgannwg a Chymraeg I blant i gynnal y digwyddiadau yn esiampl arall o weithio tuag at werthoedd a gweledigaeth y strategaeth Codi Dyhead , Codi Safonau trwy gynyddu’r cydweithio ac ymglymiad gyda rhieni.

Dwedodd pencampwr y Gymraeg, Michelle Symonds, “Mae’r digwyddiadau hyn yn hynod bwysig os ydym am gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru trwy gynyddu'r niferoedd oedolion sy’n dysgu. Fel dysgwr Cymraeg fy hun, rydw i’n bendant wedi gweld manteision dysgu ein hiaith hyfryd, nid yn unig yn fy ngwaith bob dydd fel Cynghorydd, ond yn fy mywyd personol gyda fy nheulu. Byddwn I’n annog unrhyw un i gymryd y cam hwn a manteisio ar y digwyddiadau marchnata ar draws y Fwrdeistref.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni