Ar-lein, Mae'n arbed amser

Erlyn siop ym Merthyr am werthu sigaréts

  • Categorïau : Press Release
  • 18 Rhag 2020
Cigarette prosecution Nov 2020 No2

Arweiniodd ymchwiliad gan Wasanaeth Safonau Masnach CBS Merthyr Tudful i werthiant sigaréts a thybaco ffug i erlyniad Mr Alan Gubrail and Mr Shirwan Ahmad yn Llys Ynadon Merthyr ar 26 Tachwedd 2020.

Dechreuodd yr ymchwiliad yn dilyn rhybudd yn gynnar yn 2019 wedi i Safonau Masnach dderbyn gwybodaeth fod sigaréts anghyfreithlon yn cael eu gwerthu am hanner eu pris yn Carlos European Mini Market a newidiodd ei enw i European Mini Market ym Merthyr Tudful.  Dangosodd pryniannau prawf, cudd gan gynnwys pryniant prawf o dan oed fod y sigaréts yn rhai ffug ac nad oeddent wedi eu pecynnu na’u labelu’n gywir ar gyfer y farchnad yn y DU. 

Cafodd gwarant ei chyflwyno i’r siop a’r fflat i fyny’r grisiau, lle y cafwyd hyd i 3,120 o sigaréts Marlboro, Lambert & Butler a Richmond ynghyd â 1900g o dybaco Amber Leaf a Golden Virginia. Roedd y sigaréts a’r tybaco’n rhai ffug a llawer ohonynt wedi eu pecynnu mewn hen labelu sydd wedi eu gwahardd yn y DU. Cafwyd hyd i 6860 yn rhagor o sigaréts tramor nad oedd ar gyfer y farchnad yn y DU ac nad oedd felly wedi eu labelu’n gywir a’r dreth heb ei dalu arnynt.  

Ymddangosodd Mr Gubrail a Mr Ahmad gerbron y barnwr yn Llys Ynadon Merthyr ar 26 Tachwedd  2020 lle y plediodd y ddau’n euog i droseddau o dan y Ddeddf Nodau Masnach a deddfwriaethau eraill yn ymwneud â labelu tybaco. Roedd prydles y siop a’r fflat yn enw Mr Gubrail a chyfaddefodd iddo dderbyn y cynnyrch anghyfreithlon a’u gwerthu. Roedd Mr Ahmad yn byw yn y fflat uwchben y siop lle yr oedd yn barod iawn i werthu sigaréts ffug, hyd yn oed pan roedd rhai cyfreithlon ar gael.

Penderfynodd y barnwr fod y ddau yn euog am werthu sigaréts ffug er elw a’u bod tua hanner pris y farchnad gyfreithlon.  

Derbyniodd Mr Gubrail 12 wythnos yn y ddalfa wedi’i ohirio am 12 mis ynghyd â 250 awr o waith di-dâl,  £1668 o gostau a gordal o £128.

Derbyniodd Mr Ahmad orchymyn cymunedol am 12 mis a 180 awr o waith di-dâl, £1668 o gostau a gordal o £90.

Dywedodd Paul Lewis, Pennaeth Diogelwch a Gwasanaethau Diogelwch: “Mae hyn yn anfon neges glir nad ydym yn fodlon bod sigaréts anghyfreithlon yn cael eu gwerthu ym Merthyr Tudful. Mae’n rhaid i  breswylwyr fod yn ymwybodol nad yw unrhyw sigarét yn dda iddynt ond mae sigaréts ffug yn cynnwys lefelau uwch o docsinau sy’n achosi canser na sigaréts arferol felly dylai pobl feddwl ddwywaith cyn eu prynu. Mae gwerthiant sigaréts ffug hefyd yn niweidio masnach gyfreithlon ac yn ei wneud yn haws i blant gael gafael arnynt.”  

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’n Tîm Safonau Masnach yn ymroddedig i ddileu gwerthiant tybaco anghyfreithlon. Bydd ein swyddogion yn parhau i ymchwilio unrhyw un sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon naill ai o safle manwerthu neu ddomestig a bydd gwerthwyr a fydd yn torri’r gyfraith yn cael eu dwyn o flaen y llys ac yn derbyn dirwy neu garchariad. Mewn rhai achosion, byddwn hefyd yn defnyddio’r Ddeddf Enillion Troseddau i dargedu’r arian sy’#n cael ei wneud o’r drosedd ac yn cael effaith ar enillion troseddwyr.” 

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch gwerthiant nwyddau ffug gan gynnwys tybaco a sigaréts ein hysbysu’n gyfrinachol ar https://www.merthyr.gov.uk/do-it-online/report/general-reporting-form/ neu ffonio 0808 223 1133.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni