Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr yn Trawsnewid Cymorth Gofal Maeth â Phecyn Budd-daliadau Arloesol

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Rhag 2025
Foster (2)

Mae Maethu Cymru Merthyr yn chwyldroi cymorth gofal maeth drwy fenter arloesol sydd wedi'i chynllunio i gydnabod a grymuso teuluoedd maeth lleol, gan gynnig manteision ariannol ac ymarferol digynsail i'r rhai sy'n agor eu calonnau a'u cartrefi i blant mewn angen.

Mewn cyhoeddiad nodedig, bydd yr awdurdod lleol nawr yn darparu pecyn cymorth cynhwysfawr i ofalwyr maeth sy'n cynnwys gostyngiad o 100% yn y Dreth Gyngor, parcio am ddim ar draws holl feysydd parcio'r Cyngor a lwfansau ariannol gwell sy'n adlewyrchu'r rôl hanfodol y mae teuluoedd maeth yn ei chwarae wrth gefnogi plant sydd yn agored i niwed.

"Mae'r fenter hon yn ymwneud â mwy na chymorth ariannol - mae'n ymwneud â gwerthfawrogi ymrwymiad anhygoel ein gofalwyr maeth," meddai'r Cynghorydd Louise Minett-Vokes, Aelod o’r Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Chyfranogiad Ieuenctid. "Rydym yn anfon neges glir bod teuluoedd maeth yn bartneriaid hanfodol yn system gofal ein cymuned ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gydnabyddiaeth a'r adnoddau maen nhw'n eu haeddu."

Mae'r pecyn budd-daliadau cynhwysfawr yn cynnwys:

  • Gostyngiad o 100% yn y Dreth Gyngor
  • Lwfansau wythnosol cystadleuol fesul plenty
  • Parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio Cyngor Merthyr
  • Taliadau ychwanegol ar gyfer gwyliau a phen-blwydd
  • Tîm cymorth lleol pwrpasol
  • Mynediad at ymarferwyr therapiwtig
  • Hyfforddiant cynhwysfawr a chymorth gydag offer

Dywedodd gofalwr maeth yn awdurdod lleol Merthyr: "Ar ôl dod yn ofalwyr maeth, cawsom ein cynghori ein bod yn gymwys i gael gostyngiad y Dreth Gyngor a oedd yn ostyngiad mawr ar ein bil. Mae'r adolygiad diweddar a gynhaliwyd bellach yn rhoi eithriad llwyr o'r taliad i ofalwyr, ac rydym yn teimlo bod Maethu Cymru Merthyr yn gwerthfawrogi eu gofalwyr maeth ac yn deall yr anawsterau y gall teuluoedd eu hwynebu â chostau cynyddol.

"Byddem yn annog unrhyw un addas sydd am roi cartref i'n plant ifanc i gysylltu a holi gan fod cymorth ariannol, emosiynol ac ymarferol ar gael er mwyn maethu gydag awdurdodau lleol."

Nod Maethu Merthyr Tudful nid yn unig yw denu gofalwyr maeth newydd ond hefyd greu ecosystem gefnogol sy'n grymuso ac yn rhoi gwerth ar deuluoedd maeth presennol.

Ochr yn ochr â'n cymuned maethu bresennol, rydym wedi gwella ein cefnogaeth i deuluoedd maeth, gan gynnwys boreau coffi rheolaidd, sesiynau dysgu, partïon teuluol a chyfarfodydd anffurfiol i ofalwyr maeth sy'n canolbwyntio ar hunanofal a lles. Rydym wedi cyflwyno cynllun cyfaill ar gyfer teuluoedd maeth newydd ac mae gennym set o ofalwyr maeth wrth law i roi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unrhyw ofalwyr sydd ei hangen.

Gyda'r gymuned gadarnhaol hon a'n cynnig cefnogaeth newydd, rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi sicrwydd i bobl Merthyr y gallech ymuno â ni i agor eich cartref a maethu.

Anogir unigolion sydd â diddordeb i gysylltu â Maethu Cymru Merthyr i ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth ac archwilio'r pecyn cymorth trawsnewidiol hwn.

https://merthyrtudful.maethucymru.llyw.cymru/cymorth-a-lwfans-ym-merthyr-tudful/

Cyswllt: Maethu Cymru Merthyr Tudful
enquiries@fosterwalesctm.co.uk
01443 425007

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni