Ar-lein, Mae'n arbed amser
CBS Merthyr Tudful Yn Elwa O Sefydliad Pêl-Droed Cymru, Chwaraeon Cymru Ac Arian Llywodraeth Y Du
- Categorïau : Press Release
- 18 Tach 2024

Gall CBS Merthyr Tudful gyhoeddi, drwy Raglen Cyfleusterau Addas i'r Dyfodol Sefydliad Pêl-droed Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chronfa Cydweithio ar Gaeau Chwaraeon Cymru, ein bod wedi llwyddo i sicrhau dros £1 miliwn o gyllid allanol i ddatblygu Cyfleuster 3G newydd sbon yn Ysgol Uwchradd Afon Taf.
Mae Merthyr Heini, Adran Datblygu Chwaraeon CBSMT, wedi bod yn gweithio'n agos â chlybiau, cynghreiriau a chyrff llywodraethu lleol i ddatblygu chwaraeon trwy fforymau cydweithredol Merthyr, gyda datblygu cyfleusterau yn flaenoriaeth allweddol, yn enwedig ar gyfer Pêl-droed a Rygbi.
Bydd y 3G newydd yn llawn maint â llifoleuadau yn darparu cyfleuster addas y gellir ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn a bydd yn gyfleuster ar gyfer hyfforddiant a gemau. Bydd y cyfleuster yn cael ei redeg gan yr ysgol, sydd hefyd wedi buddsoddi yn y datblygiad ochr yn ochr â'r tîm Ysgolion Bro a'r bwriad yw agor y 3G i'r cyhoedd yn y gwanwyn.
Yn ogystal â'r 3G newydd sbon, bydd y datblygiad hefyd yn golygu bod gan Trac Cymunedol John Sellwood lifoleuadau parhaol gan ddarparu man diogel i redwyr, cerddwyr a beicwyr ar gyfer nosweithiau tywyll a chreu cyfleuster amlbwrpas.
Bydd cynllunio defnydd ar gyfer y 3G yn cael ei wneud ar y cyd â chlybiau lleol a swyddogion y gynghrair, er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y gymuned a bydd yn cael ei brisio i sicrhau ei fod yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i ddefnyddwyr lleol. Mae arolygon ecolegol a goleuo amrywiol hefyd wedi'u cynnal i sicrhau nad yw'r cyfleuster newydd yn niweidio cynefinoedd lleol mewn unrhyw ffordd.
Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd y Cyngor: "Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn hynod gefnogol o chwaraeon a'i fudd i'r gymuned leol. Mae'r cyfleuster 3G newydd hwn, ochr yn ochr â llifoleuadau Trac Cymunedol John Sellwood yn ychwanegiad pwysig i'r fwrdeistref a bydd yn cefnogi gwaith gwych ein clybiau chwaraeon lleol.
"Un o'n blaenoriaethau yw datblygu mannau hamdden a diwylliannol ym Merthyr Tudful ac mae datblygu'r safle hwn ac eraill yn allweddol i gyflawni hynny. Gyda rhai datblygiadau pellach a rhaglenni ymgysylltu sydd wedi'u targedu ar y gweill, edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach yn y dyfodol agos."