Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dangos ymrwymiad i Gymru lanach a gwyrddach drwy Safon Un Blaned: Achrediad Arian

  • Categorïau : Press Release
  • 24 Tach 2025
One Planet Silver Solo

Mae Safon Un Blaned yn cydnabod sefydliadau sy'n ceisio parchu ffiniau a galluoedd naturiol y ddaear drwy addasu effeithiau eu gweithgareddau i lefel sy'n cyfateb i'r hyn y gall y blaned ei darparu.

Mae'r Cyngor yn falch o dderbyn y wobr arian fawreddog hon, sy'n arwydd o'r gwaith caled a'r newidiadau cadarnhaol â bioamrywiaeth, gwella dealltwriaeth o lythrennedd carbon a datblygu strategaethau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, cyflawni pob maes cyflenwi a staff, ledled yr awdurdod a chynyddu ymgysylltiad a pherchnogaeth.

Roedd y broses achredu yn cynnwys offer hunanasesu, gan ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi pob un o'r egwyddorion. Bu aelodau allweddol o’r staff yn cyfranogi mewn cyfweliadau i ddangos eu cyfranogiad, eu hymroddiad a'u hymrwymiad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd David Jones, Aelod Cabinet dros Newidiadau yn yr Hinsawdd a Chymunedau; "Mae cyflawni Safon Un Blaned: Achrediad Arian yn dangos ymroddiad ein staff, cynghorwyr a thrigolion o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'n gwaith caled tuag at gyflawni targed sero net.

"Ni yw'r ail awdurdod lleol yng Nghymru i gael ei gydnabod o dan y Safon Un Blaned a byddwn yn parhau i arwain drwy esiampl yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Assessment Services Ltd;
"Mae'r cyflawniad sylweddol hwn yn cydnabod ymrwymiad cryf y Cyngor i gynaliadwyedd, cyfrifoldeb amgylcheddol a gweithredu cadarnhaol yn yr hinsawdd. Mae cyrraedd y lefel Arian yn dangos cynnydd clir wrth ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd ar draws strategaeth, gweithrediadau ac ymgysylltu â'r gymuned.

"Rydym yn canmol pawb sy'n gysylltiedig â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am eu harweinyddiaeth a'u hymroddiad i greu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy.
"

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni