Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ennill y Gwobrau Cynaliadwyedd ar Waith, Gwobrau y Gwasanaethau Asesu 2026

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Maw 2026
AS

Ar 12 Chwefror 2026, enillodd y Cyngor y Wobr Cynaliadwyedd ar Waith, gan ddangos ei ymrwymiad angerddol i ddyfodol glanach, gwyrddach i'n cymunedau.

Yn ôl Panel y Gwasanaethau Asesu; "Dangosodd eich cyflwyniad lywodraethu cryf, atebolrwydd ac ymgysylltiad â'r gweithlu wrth ymgorffori cyfrifoldeb amgylcheddol ar draws y sefydliad.

"Mae'r dull integredig sy'n cwmpasu ystadau, trafnidiaeth, caffael a diwylliant staff yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i stiwardiaeth amgylcheddol.

"Roedd y beirniaid yn gwerthfawrogi'n arbennig y fframwaith strwythuredig a'r safonau cydnabyddedig sy'n cefnogi eich cynnydd tuag at sero net."

Yn dilyn gweithredu'r Cynllun Datgarboneiddio (23-30) a'r Cynllun Ynni Ardal Leol, mae arferion amgylcheddol allweddol wedi'u hintegreiddio i'r Cyngor. Yn ogystal, mae mentrau i ymgysylltu ac addysgu staff ynghylch effeithiau newid yn yr hinsawdd ac ymdrechu i gyflawni sero net o fewn eu rolau wedi mynd o nerth i nerth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Chymdogaethau, y Cynghorydd David Jones; "Mae hwn yn gyflawniad gwych i'r Cyngor ac mae'n dangos ymrwymiad ac ymgysylltiad staff ledled yr awdurdod i gyfrannu at wneud Merthyr Tudful yn lle glanach a gwyrddach i fyw a gweithio. Da iawn, bawb."

I gael rhagor o wybodaeth am ddatgarboneiddio yn ein Bwrdeistref Sirol, ewch i; merthyr.gov.uk/decarbonisation

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni