Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful yn falch o gefnogi’r Ymgyrch Gwych i gael Cymru i Rif 1!

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Hyd 2024
BMR Oct24

Rydyn ni’n cefnogi ymgyrch gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd Rhif 1 yn y byd am ailgylchu, ac mae angen eich help CHI arnom i gyrraedd yno! Mae Cymru’n gwneud cynnydd yn barod – rydym newydd ddringo o’r trydydd safle i’r ail, ychydig y tu ôl i Awstria. Gwych, ynde? Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd.

Gwnewch addewid i chwarae eich rhan i gael Cymru i’r brig a chael cyfle i ennill gwyliau neu antur wych yng Nghymru! Darllenwch fwy i ddarganfod sut.

Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod na ddylai bwyd fyth fynd i’r bin sbwriel, y realiti yw bod chwarter cynnwys biniau gwastraff cyffredinol ein cartrefi yn wastraff bwyd. Mae hynny’n ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn. Yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% o’r bwyd hwn, gan gostio £89 y mis i’r aelwyd gyffredin o 4 person. Wff!

Achub bwyd rhag y bin sbwriel yw’r peth pennaf y gallwn ei wneud i gael Cymru i Rif 1. Dilynwch y tips syml hyn i ddarganfod beth allwch ei wneud, yna gwnewch yr addewid i ennill gwobrau. Fe wnewch chi hefyd arbed amser ac arian i chi’ch hun, gan helpu i greu ynni adnewyddadwy. Rydych chi ar eich ennill bob ffordd!

1. Byddwch yn greadigol gyda’r bwyd sydd dros ben gennych

Weithiau, gall bywyd fod yn brysur, ac mae’n rhaid inni wneud ein gorau gyda’r bwyd sydd ar gael i osgoi ei wastraffu. Beth am ei weld fel her hwyliog! Defnyddiwch y tameidiau olaf yn eich oergell i roi hwb sydyn a chreadigol i’ch prydau bwyd.

Gyda thymor pwmpenni yn ei anterth, beth am droi’r darnau bwytadwy hynny’n ffriterau, cyri, neu hyd yn oed smwddi, yn hytrach na gadael iddyn nhw fynd yn wastraff? Mae’r un peth yn wir am y llysiau angof hynny, cig rhost ddoe, neu ffrwythau aeddfed – mae tostis, omledi, a phwdinau iogwrt ymysg y syniadau blasus i’w defnyddio! Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio bwyd cyn iddo sbwylio’n foddhaus, yn flasus, ac yn garedig i’ch waled a’r blaned.

2. Os na ellir ei fwyta fe, ailgylcha fe

Peidiwch anghofio’r darnau anfwytadwy hynny – fel crwyn bananas, plisg wyau, a gwaddodion coffi – dylid eu hailgylchu bob amser. Oherwydd pan gaiff gwastraff bwyd ei ailgylchu, caiff ei droi’n ynni adnewyddadwy.

Yma yng Nghymru, mae bron pob awdurdod lleol yn ailgylchu gwastraff bwyd i greu ynni glanach a gwyrddach, ac yn 2023, fe wnaethom ailgylchu digon i bweru mwy na 10,000 o gartrefi.

Gall croen dim ond un bwmpen bweru teledi i wylio marathon ffilmiau Calan Gaeaf – yn ddigon hir i wylio Hocus Pocus a’r Addams Family – a gall un llond cadi gwastraff bwyd gynhyrchu digon o ynni i bweru cartref am bron i awr. O fagiau te, esgyrn, crwyn banana neu hyd yn oed fwyd wedi llwydo sydd heibio’i ddyddiad – dim ots pa mor ych a fi – dylai’r cwbl fynd i’r bin bwyd. Cofiwch: ‘gwastraff bwyd = ynni’!

Gwnewch addewid i achub eich bwyd o’r bin sbwriel ac ENNILL

Gwnewch addewid i helpu Cymru gyrraedd Rhif 1, a gallech ennill gwyliau bythgofiadwy i chwech o bobl yn Bluestone Resort neu fynediad am ddim i atyniadau pennaf Cymru, fel Folly Farm, Zip World Tower, Plantasia, Royal Mint Experience, y Sw Fynydd Gymreig, neu Cadw!

Ewch draw i Cymru yn Ailgylchu i gymryd rhan.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni