Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful sy’n Dathlu’r Paffiwr Anhygoel Eddie Thomas gydag Arddangosfa sy’n Nodi ei Ganmlwyddiant

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Medi 2025
EDDIE

Mae Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful yn gwahodd trigolion yr ardal a’r sawl sy’n angerddol dros baffio i ymweld ag arddangosfa anhygoel sy’n anrhydeddu’r arwr paffio, Eddie Thomas drwy gydol mis Medi, yn dathlu beth fyddai wedi bod yn ganmlwyddiant iddo.

Cynhelir yr arddangosfa drwy gydol y mis (ar wahân i Fedi’r 12fed a’r 13eg), ac mae’n cynnig taith gyflawn drwy fywyd arbennig Thomas. O’i gychwyn diymhongar yn fab i löwr nes iddo droi’n baffiwr o fri ac yn un o arweinwyr y gymuned, mae’r arddangosfa’n dangos ei yrfa paffio anhygoel yn amatur ac yn broffesiynol.

Gall ymwelwyr fynd i’r ‘Cornel Clip’ sy’n dangos ffilmiau o’r Llyfrgell Genedlaethol, lle cewch eich trwytho yng ngyrfa baffio anhygoel Thomas. Mae’r arddangosfa’n amlygu ei lwyddiannau’n  Bencampwr Cymru, Prydain, yr Ymerodraeth ac Ewrop a’i statws fel y prif wrthwynebydd i Bencampwr y Byd Sugar Ray Robinson.

Y tu hwnt i baffio, dathla’r arddangosfa ei gyfraniad i’r gymuned roedd yn rhan ohoni yn cynnwys ei rôl arwrol yng ngwaith achub Aberfan, ei wasanaeth cymunedol yn Gynghorydd Annibynnol a’i gyfnod yn Faer dros Ferthyr Tudful.

Mae arddangosfa Eddie Thomas yn addo siwrnai drwy hanes lleol, rhagoriaeth chwaraeon a gwasanaeth cymunedol fydd yn eich ysbrydoli.

“Roedd Eddie Thomas fel ail dad i mi, dyn hael fyddai’n rhoi ei olaf un i chi, dyn fyddai’n cadw at ei air sy’n beth anarferol ym myd paffio. Roedd yn uchel ei barch gan bobl o bob cefndir ac roedd iddo naws arbennig fyddai’n goleuo pob ystafell.”

- Colin Jones Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig a Phencampwr Pwysau Welter Prydeinig, y Gymanwlad ac Ewrop.

“Mi fyddaf yn fythol ddiolchgar i Eddie Thomas am ddod i mewn i fy ngyrfa pan oedd wir angen cymorth arnaf. Roeddwn i’n baffiwr, nid yn hyrwyddwr nac yn ddyn busnes ac roeddwn i wedi gwneud rhai penderfyniadau gwael. Hyrwyddodd Eddie fy ngornest yn erbyn Joe Cokes. Helpodd i wthio fy ngyrfa yn ôl tuag at gyfeiriad lle gallwn herio pencampwriaeth y byd, ac mi fyddaf yn cofio hynny drwy gydol fy oes.”

- John Conteh Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Pencampwr Pwysau ysgafn-trwm y Byd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Lyfrgell Ganolog Merthyr drwy gydol mis Medi.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni