Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi plannu dros 80 o goed fel rhan o Ganopi Gwyrdd y Frenhines

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 06 Ebr 2022
QGC image 2

Fel rhan o fenter Canopi Gwyrdd y Frenhines, mae Merthyr Tudful wedi plannu amrywiaeth o goed ar draws y Fwrdeistref Sirol i nodi Jiwbilî Platinwm ei Mawrhydi y Frenhines.

Wrth inni weld diwedd y tymor plannu swyddogol, sy’n rhedeg o fis Hydref i fis Mawrth, mae ei uchelder brenhinol ‘EUB’ wedi anfon neges o ddiolch i bobl ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi dod at ei gilydd i blannu dros filiwn o goed Jiwbilî yn ei henw.

Mae neges ei Mawrhydi yn nodi’r pwynt hanner ffordd ar gyfer menter Canopi Gwyrdd y Frenhines sy’n ymestyn dros ddau dymor plannu coed swyddogol. Bydd plannu coed yn ailddechrau ym mis Hydref 2022, hyd at ddiwedd y flwyddyn Jiwbilî.

Mae’r brosiect hon wedi gwahodd pawb, o unigolion i grwpiau lleol, ysgolion a busnesau, i “Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî” a “creu cymynrodd er anrhydedd i arweinyddiaeth y Frenhines yn y Genedl, a fydd o budd i genedlaethau’r dyfodol.”

Dros y misoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi plannu 68 o goed mewn lleoliadau amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol gyda llawer o unigolion a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan fel rhan o'r fenter hon.

Dydd Gwener yma, Ebrill yr 8fed am 9.00 am bydd 20 coeden arall yn cael eu plannu ym Mharc Treharris ac am 9.00 am ddydd Llun 11 Ebrill, i nodi diwedd y tymor plannu hon. Bydd yr 8 goeden olaf yn cael eu plannu ym Mharc Taf Bargoed. Os oes unrhyw un yn dymuno bod yn rhan o'r achlysur hanesyddol hwn, dewch draw.

Nid yn unig yw’r coed yma yn deyrnged wych i’w Mawrhydi y Frenhines, ond byddant hefyd yn gwella’r amgylchedd ac yn cyfrannu at agenda Datgarboneiddio’r Cyngor a’i nod o fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030.

I'r rhai sydd wedi plannu coeden fel rhan o'r fenter hon, gwnewch yn siŵr eich bod yn uwchlwytho eich prosiectau plannu i'r map QGC trwy'r ddolen isod. Bydd y Map QGC yn cau ar gyfer cyflwyniadau newydd ddiwedd mis Ebrill a bydd yn agor eto ar ddechrau’r tymor plannu ar 1 Hydref 2022.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i queensgreencanopy.org

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni