Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pwll newydd ym Merthyr Tudful!
- Categorïau : Press Release
- 20 Hyd 2021

Mae tŷ bwyta poblogaidd iawn sydd yn denu gwesteion o bob cwr o’r DU yn agor ym Merthyr Tudful.
Bydd The Mine at CF47 & Castelany's Fine Dining hefyd yn cynorthwyo’r gymuned leol drwy greu 25 o swyddi a’r mwyafrif ohonynt yn drigolion lleol. Gweithiodd tîm cyflogadwyedd y Cyngor ar y cyd â Hyfforddiant Tudful i gyfweld a recriwtio.
Mae’r tŷ bwyta gwreiddiol yng Nghwmgwrach ger Glyn Nedd yn llawn am y ddau fis nesa. Mae’r addurniadau yn dilyn thema lofaol, wrth gwrs - ceblau mawr fel byrddau, bwyd wedi ei weini ar rawiau, toiledau y cyfeirir atynt fel 'The Pits', addurniadau metal ar y waliau a wal atgofion i lowyr lle y gall cwsmeriaid osod lluniau o’u cyndeidiau a oedd yn gweithio yn y glofeydd.
Mae tŷ bwyta Merthyr Tudful yng Ngwrt Bowen, Pontmorlais mewn adeilad gwag a arferai fod yn dafarn, siop gigydd ac optegydd. Mae’r adeilad yn cael ei adfer i’r safon uchaf posib. Bydd yn dilyn thema ddiwydiannol a bydd yma waliau atgofion a lluniau Instagram.
Cwrt Bowen yw’r deuddegfed adeilad i gael ei ailwampio’n llwyr a hynny fel rhan o Gynllun Tirlun Treftadaeth Pontmorlais y Cyngor a lansiwyd yn 2011.
Perchennog yr adeilad yw Murphy Corke Developments a dderbyniodd gyllid gan y Cynllun Tirlun Treftadaeth, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a’r Cyngor. Derbyniodd Murphy Corke Developments hefyd gyllid Buddsoddiad Adfywio Thematig a Dargedwyd drwy raglen Trawsffurfio Trefi Llywodraeth Cymru.
“Rydym hefyd am ddwyn ynghyd aelodau o’r gymuned – yn enwedig y rheini sydd mewn perygl o fod ar eu pennau eu hunain neu sydd o dan anfantais ac annog ymwelwyr i’r ardal gan gynyddu twristiaeth a buddsoddiad yn y dref.”
Diolchodd Stuart i’r Cyngor am eu cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad, cytuno ar rent a dod o hyd i staff. “Mae cefnogaeth Cyngor Merthyr wedi bod yn wych,” ychwanegodd. “Rydym wrth ein bodd gyda’r hyn y mae’r timau wedi eu gwneud i ni.”
Dechreuodd y Prif Gogydd sydd wedi ennill nifer o wobrau a’r cydberchennog, Marius Castelany ei yrfa â’r Lleng Dramor Ffrengig, dros 25 o flynyddoedd yn ôl. Mae Marius hefyd yn athro coginio cymwys a chwblhaodd ei ysgoloriaeth â ‘Thad bwyd Eidalaidd,’ Antonio Carluccio.
Bydd lle i hyd at 100 o westeion yn y tŷ bwyta a bydd y bwyd ‘yn gymysgedd o ddau ddiwylliant; Cymraeg ac Eidalaidd.’ Mae’r prif blatiau’n cynnwys ‘Breast of Heaven’ a Ffiled Surf ‘n’ Turf. Bydd y bwyty ar lawr uchaf yr adeilad deulawr, gyda'r llawr gwaelod yn dod yn far tapas Eidalaidd.
Bydd yr oriau agor rhwng canol dydd ac 11pm, o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn a rhwng canol dydd a 6pm ar ddydd Sul. Mae’r perchnogion yn gobeithio y bydd yn barod erbyn diwedd mis Tachwedd.
The Mine at CF47 yw’r busnes diweddaraf i fanteisio ar gynllun Yn y Cyfamser y Cyngor Bwrdeistref Sirol sydd yn cefnogi mentrau newydd i agor eu busnesau mewn adeiladau gwag ynghanol y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio: “Rydym mor falch i weld tŷ bwyta gwych arall yn agor ynghanol y dref ac rwy’n siŵr y bydd The Mine mor boblogaidd â’r tŷ bwyta yng Nghwmgwrach.
“Mae Rhaglen yn y Cyfamser sydd yn gysylltiedig ag adfywiad canol y dref yn gweithio ar y cyd ag Hyfforddiant Tudful er mwyn cynnig cymorth dyfeisgar i fusnesau lleol gael gafael ar eiddo am y tro cyntaf a/neu arallgyfeirio i gynnig darpariaethau nwyddau/gwasanaethau newydd.
“Mae’r fenter hon yn bosibl yn sgil gwaith caled ein tîm datblygiad economaidd a’i bartneriaid blaengar. Maent yn cynorthwyo canol ein tref i barhau i ddatblygu diwylliant sydd yn llawn busnesau bwyd a diod annibynnol,” dywedodd.
“Bydd llawer rhagor i ddod mewn cyfnod cyffrous iawn i economi Merthyr Tudful.”
- Os hoffech gymorth gan gynllun Yn y Cyfamser, cysylltwch â Chanolfan Mentergarwch Merthyr Tudful ar 01685 727509.