Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion Merthyr Tudful yn Disgleirio yn Eisteddfod yr Urdd 2025!

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Meh 2025
Eisteddfod (1)

Cafwyd llwyddiant gan ddysgwyr ar draws Merthyr Tudful yng ngŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, Eisteddfod yr Urdd. Fe’i cynhaliwyd eleni ym mhrydferthwch Parc Margam, Castell Nedd Port Talbot. Yn ystod gwyliau’r hanner tymor, y Gymraeg a’i diwylliant oedd canolbwynt yr ŵyl, a bu disgyblion ifanc, talentog Merthyr Tudful yn serennu ar y llwyfan.

I gychwyn, cymerodd ysgolion Merthyr ran yn Eisteddfod Cymoedd Morgannwg. Yn y rownd hon roedd disgyblion o’r fwrdeistref yn cymryd rhan ac yn cynrychioli Santes Tudful, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug, Ysgol Gynradd Gellifaelog, Ysgol Gynradd y Graig, Ysgol Gymunedol Abercannaid, Ysgol Gynradd Pantysgallog, Ysgol Greenfields, Ysgol Gynradd Troedyrhiw,Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac Ysgol Uwchradd Afon Taf.

Roedd cystadlaethau o bob math – o gelf a chrefft, perfformiadau cerddorol (côr, piano, telyn) a chystadlaethau llefaru hyd at ddawnsio hip hop/disgo/stryd – a phob un o’r cystadlaethau’n dangos dawn anhygoel y disgyblion a’u hangerdd dros y Gymraeg.

Wedi brwydro’n galed yn yr Eisteddfodau lleol, aeth disgyblion o bob cwr o’r fwrdeistref – yn cynnwys ysgolion Cymraeg a Saesneg – i’r rownd derfynol ar y llwyfan cenedlaethol. Dyma rai o’r llwyddiannau:

Cafodd Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful lwyddiant ysgubol drwy ddod yn

  • 2il yn y gystadleuaeth Perfformio Golygfa (Blwyddyn 6 ac iau) – allan o 17 ysgol led led Cymru!
  • 2il yn y Ddawns Hip Hop/ Stryd/ Disgo (neu gyfuniad) (Blwyddyn 6 ac iau) – roedd 18 o ddawnswyr eraill yn cystadlu!

Daeth Ysgol Gynradd Pantysgllog i’r brig yn y gystadleuaeth Côr i Ddysgwyr gan orffen y gystadleuaeth yn y tri uchaf. Perfformiodd y côr o flaen torf o 500 o bobl – ac roeddent hyd yn oed wedi ymddangos ar raglen S4C yr Eisteddfod!

Mae’r llwyddiannau hyn yn dyst nid yn unig i allu anhygoel ein disgyblion ond hefyd eu dyfalbarhad, eu balchder a’u heneidiau diwylliannol diysgog. Dangosodd pob un o’r disgyblion – waeth beth oedd eu safle terfynol – waith tîm, gwytnwch ac ymroddiad dwys i’r Gymraeg.

Rhannodd y Cynghorydd Gareth Lewis, yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, ei falchder:

“Rydym wrth ein boddau i weld gymaint o’n plant a’n ysgolion yn ymwneud a’r iaith Gymraeg a’i diwylliant mewn ffordd mor frwdfrydig. Maent mor ddewr yn cystadlu ar lwyfan cenedlaethol! Trwy ein plant a’n pobl ifainc byddwn yn gweld yr iaith yn ffynnu. Rydym yn ymroddedig i gefnogi’r cynnydd hwn yn yr iaith drwy ein gweledigaeth #Shwmaeronment – man lle dethlir y Gymraeg.”

Rhaid hefyd sôn am ymroddiad yr athrawon a’r teuluoedd cefnogol sydd wedi arwain ac annog y disgyblion drwy gydol eu siwrnai Eisteddfodol, gan roi oriau di-rif o’u hamser a’u hegni.

Erys Eisteddfod yr Urdd yn llwyfan bwerus i bobl ifainc ddathlu a dysgu rhagor am eu doniau ieithyddol a chreadigol – ac eleni, profodd Merthyr Tudful ei bod yn gymuned sy’n gyfoeth o falchder, doniau ac egni diwylliannol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni