Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diweddariad Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 24 Ebr 2024

Ddydd Mawrth Ebrill 30ain, bydd Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol Merthyr Tudful yn dychwelyd i'r Cyngor, gyda'r bwriad o gael darparwr hamdden amgen, profiadol sy'n gweithredu gwasanaethau hamdden ar ein rhan. Mae hyn yn cynnwys ailagor y pyllau yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd pob adeilad sy'n eiddo i'r cyngor yn dychwelyd fel rhan o'r trosglwyddiad hwnnw.
Bydd gwasanaethau llyfrgell a pharciau yn cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan y Cyngor.
Bydd Canolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i'w Ymddiriedolwyr. Nid yw, ac ni fu erioed, yn ased i'r Cyngor.
Nod y Cyngor erioed fu cynnal gwasanaethau yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale. Dros y misoedd diwethaf mae'r Cyngor wedi ceisio cysylltu â'r Ymddiriedolwyr yn barhaus i ddod o hyd i ddatrysiad a ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau. Drwy gydol y daith hon, mae'r Cyngor wedi ymdrechu i hysbysu aelodau'r cyhoedd, staff, undebau llafur ac aelodau etholedig am y sefyllfa heriol hon.
Yn anffodus, hyd yma, nid oes unrhyw arwydd o ddyfodol Canolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale wedi ei ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth.
Rhagdybiaeth y Cyngor, felly, yw y bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i redeg gwasanaethau yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale o ddydd Mercher Mai 1af 2024.
Mater i'r Ymddiriedolwyr yn unig yw hwn bellach.
Gobaith y Cyngor yw y bydd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal gwasanaethau a diogelu swyddi'r staff ymroddedig yn y ganolfan, sydd wedi gwasanaethu cymuned Aberfan cyhyd.
DIWEDD