Ar-lein, Mae'n arbed amser
Chwaraewyr pêl-droed y stryd ym Merthyr Tudful ymysg y gorau yng Nghymru
- Categorïau : Press Release
- 30 Maw 2022

Mae chwaraewyr pêl-droed y stryd ym Merthyr Tudful yn profi cryn lwyddiant gyda sawl aelod yn cael eu dewis i gynrychioli’r fwrdeistref sirol. Mae’r tîm wedi ennill dwy bencampwriaeth yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae preswylwyr Hostel Chaplin sef Lloyd Jones a Thomas Jones ynghyd ag Adam Davies, a oedd ar un adeg yn cysgu ar soffa ei ffrindiau ond sydd yn awr yn byw ym Merthyr Tudful gyda’i bartner wedi cael eu dewis i chwarae yng Nghwpan Her y Pedair Gwlad yng Nghaeredin. Mae’r clwb wedi ennill dwy gystadleuaeth; Cwpan Coffa Abertawe a Chwpan Pêl-droed y Stryd, Caerdydd 2022.
Cyrhaeddodd dau dîm o Ferthyr Tudful rownd derfynol y gystadleuaeth yng Nghaerdydd ac enillwyd tlysau yn ogystal ar gyfer Chwaraewr y Twrnament a Gôl-geidwad y Twrnament.
Mae Tîm Pêl-droed y Stryd yn hyfforddi pob Dydd Gwener ar gae chwarae 5 bob ochr, Gôl yng Nghanolfan Hamdden Rhydycar ac mae’n cynnwys chwaraewyr sydd wedi bod yn ddiwaith yn hirdynor, yn ddigartref ac unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sydd yn gaeth i gyffuriau.
Mae’r prosiect, sydd yn gweithredu o dan faner Pêl-droed y Stryd, Cymru yn cynnig cyfleoedd ar gyfer unigolion sydd wedi eu hynysu’n gymdeithasol drwy ddarparu amgylchedd agored, cynhwysol a diogel i chwarae pêl-droed, gwneud ffrindiau, datblygu hunanhyder a gwella llesiant meddyliol.
“Mae gennym oddeutu 20 o gleientiaid - dynion a menywod o hosteli a lletyau gwely a brecwast, ledled Merthyr Tudful,” meddai Scott Jeynes, Rheolwr Prosiect Pêl-droed y Stryd, Cymru.
“Rydym yn falch i allu cynnnig sesiynau galw i mewn sydd yn cael eu rhedeg gan hyfforddwyr sydd wedi derbyn gwiriadau manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac sydd yn gymwys mewn cymorth cyntaf.”
“Mae’r prosiect wedi parhau i dyfu’n wythnosol dros y 12 mis diwethaf ac mae ei lwyddiant wedi bod yn ysgubol. Mae Cymdeithas Tai Pobl / Pobl Housing Association wedi bod yn gwbl allweddol ac mae Kyle Ritchie, ei Rheolwr Gwasaneth wedi bod yn gyfrifol am ei lwyddiannus drwy weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a Phêl-droed y Stryd yng Nghymru.”
Mae prosiect Pêl-droed y Stryd yng Nghymru wedi sicrhau arian i ehangu ei hyfforddiant a’i becyn addysg i gynnwys cyrsiau arweinyddiaeth mewn pêl-droed a chymorth cyntaf. Bwriad y pecyn yw datblygu hunanhyder ac ennill sgiliau bywyd.
Bydd sesiynau’n cael eu cynnal pob dydd Gwener, rhwng 2pm a 3.30pm ac mae croeso i bawb. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caitlin ar: Caitlin@streetfootballwales.com neu ffoniwch 07832 616848