Ar-lein, Mae'n arbed amser

Prosiect Merthyr Tudful i roi hwb i swyddi a darpariaeth gofal plant

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Gor 2019
childminding pic

Cafodd prosiect ei lansio i gynyddu cyfleoedd am swyddi ym Merthyr Tudful wrth geisio hefyd lenwi’r bwlch o ran gofal plant ledled y fwrdeistref sirol.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy (C4W+) yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi dyfarnu arian i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i weithio â phobl na all gael mynediad at gefnogaeth oddi wrth raglenni eraill oherwydd y rhwystr mae meini prawf cymhwysedd yn ei greu.

Mae swyddogion C4+ yn gweithio â Thîm Blynyddoedd Cynnar a Datblygu Gofal Plant y Cyngor i hyrwyddo’r amrywiol gefnogaeth sydd ar gael i bobl â diddordeb mewn dechrau gyrfa newydd mewn gofal plant.

Yn ogystal ag amlygu’r cyfleoedd ar Facebook a thrwy gyhoeddusrwydd arall, mae’r timau’n cynnal sesiwn fer fis nesaf i ateb unrhyw gwestiynau allai fod gan ymgeiswyr posibl.

“Ceir prinder mawr o ofalwyr plant ym Merthyr Tudful ac rydym am ledaenu’r gair fod dyfod yn ofalwr plant hunan gyflogedig yn haws na’r hyn mae pobl yn ei gredu,” dywedodd Cydlynydd Gweithredol Cymunedau am Waith Tina Ryan-Newton. “Mae hyfforddiant a chefnogaeth busnes ar gael – y cyfan yn rhad ac am ddim.”

Mae’r timau’n cydweithio â’r elusen gofal cartref Cymryd Rhan, sy’n darparu Cymorth Busnes Gofal Plant ar ran Adran Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant y Cyngor.

Bydd Cymryd Rhan ac Adran Blynyddoedd Cynnar Merthyr Tudful yn bresennol yn y sesiwn friffio a fydd yn digwydd yng Nghanolfan Plant Integredig Cwm Golau, Pentrebach, am 1.30pm ar 24 Gorffennaf.

Am wybodaeth bellach neu i gofrestru, cysylltwch â Cerys Dutton ar 07784 298235.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau