Ar-lein, Mae'n arbed amser
Merthyr Tydfil’s bumper year for Green Flag awards
- Categorïau : Press Release
- 14 Hyd 2020

Mae Merthyr Tudful yn dathlu blwyddyn wych y Faner Werdd gyda phump o’i mannau gwyrdd a deg prosiect sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned yn ennill neu’n cadw’r clod gyda Gwobr Baner Werdd 2020.
Mae Parc Cyfarthfa, Parc Taf Bargoed a Mynwent Aberfan, oll dan berchnogaeth y Cyngor Bwrdeistref Sirol, wedi cadw eu gwobrau a gyflwynir gan Gadwch Gymru’n Daclus. Mae’r wobr yn nod ryngwladol ar gyfer parc neu fan gwyrdd o ansawdd da. Derbyniodd Parc Thomastown wobr am y tro cyntaf ac mae Canolfan Goedwig Garwnant, dan berchnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, hefyd wedi derbyn gwobr gyflawn.
Derbyniodd Grŵp Gweithredu Cymunedol Dowlais a’r Pant dair Gwobr Baner Werdd Gymunedol, sef y meincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli gan wirfoddolwyr. Dyma’r rhestr gyflawn o brosiectau cydnabyddedig i ennill Gwobr Gymunedol:
- Gwarchodfa Natur Cilsanws - Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Cylch
- Canolfan Gymunedol Dowlais - Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George
- Gardd Natur Dowlais gan Ysgol Tŷ Dysgu – Grŵp Gweithredu Dowlais a’r Pant
- Gardd Natur Gymunedol Yr Hafod - Grŵp Gweithredu Dowlais a’r Pant
- Gardd Natur Gymunedol Muriel a Blanche - Grŵp Gweithredu Dowlais a’r Pant
- Prosiect Gardd Gymunedol Dynion Gurnos
- Pwll Top Penywern – Cymdeithas Pysgota Merthyr Tudful
- Parc Pitwoods – Gwirfoddolwyr Nant Llwynog
- Pentref Pontsticill
- Llwybr Cerdd Woodland – Cymdeithas Rhandir y Cilgant Brenhinol
Mae Rhaglen y Wobr yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Fe’i beirniadir gan arbenigwyr ar fannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli o’u hamser i ymweld â safleoedd yr ymgeiswyr a’u hasesu yn erbyn wyth o feini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol ac ymglymiad y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Rydym yn haeddiannol falch o’n mannau gwyrdd a’r ffaith ein bod ni’n parhau i ennill gwobrau Baner Werdd, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Unwaith yn rhagor, mae safleoedd a reolir gan y Cyngor sef, Parc Cyfarthfa, Mynwent Aber-fan a Pharc Taf Bargoed – y parc olaf hwnnw am y 10fed flwyddyn yn olynol – wedi cael eu hanrhydeddu â’r brif wobr – gyda Pharc Thomastown yn ymgeisio am y tro cyntaf eleni,” ychwanegodd.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr cwbl ymroddedig ledled y Fwrdeistref Sirol sy'n parhau i greu a chynnal prosiectau cymunedol sydd hefyd yn cael eu cydnabod yn flynyddol.
“Mae’r chwe mis olaf yn benodol wedi profi pa mor hanfodol yw ein parciau a’n mannau gwyrdd i bobl – sydd wedi ei hynysu ym mhob agwedd arall – i allu dod o hyd i rywle ble y maen nhw’n gallu cysylltu gyda natur ac anghofio am drafferthion bywyd am y tro.”
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd gyda Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i’n cymunedau. I lawer ohonom maen nhw wedi bod yn nefoedd ar stepen ein drws, er budd ein hiechyd a’n llesiant.”