Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwyliau pum seren cyntaf Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 15 Meh 2023

Mae cyfres o fythynnod gwyliau moethus hunanarlwyo wedi dod y llety cyntaf ym Merthyr Tudful i ennill dyfarniad pum seren gan Croeso Cymru.
Mae Casgliad Pencerrig, sy'n cynnwys saith cartref ym Mhontsticill a chanol y dref, bellach hefyd yn cynnwys y pedwerydd byncws pum seren yng Nghymru.
Yn eiddo i Clare a Douglas McCombie sydd wedi adeiladu eu portffolio dros x mlynedd, mae gan fythynnod a chabanau Pontsticill olygfeydd syfrdanol o gefn gwlad, tra bod tai canol y dref yn union gyferbyn â dau barc lleol hardd.
Gall yr eiddo ddarparu ar gyfer rhwng dau a saith o bobl, ac mae pob un ohonynt o fewn pellter agos i rai o brif atyniadau twristiaeth Merthyr Tudful, gan gynnwys Rheilffordd Fynydd Aberhonddu, Pen y Fan, Parkwood Outdoors Dolygaer a BikePark Wales.
Mae gan bob un o anheddau Pontsticill fannau awyr agored preifat, rhai gyda gwresogyddion a manau gwneud tân tu allan. Mae'r portffolio cyfan wedi ennill statws pum seren, gan gynnwys byncws Tŷ Bunc gyferbyn â Pharc Thomastown.
Derbyniodd y busnes £25,000 o Grant Cyfalaf Menter Gymdeithasol, Twristiaeth a Chwaraeon (SETS) a reolir gan y Cyngor y llynedd, ac mae'n parhau i gael cyngor a chymorth gan ein timau Adfywio a Datblygu Economaidd.
Dywedodd Clare McCombie: “Rydym mor falch a chyffrous gyda’n Gwobrau Croeso Cymru! Roeddem yn gwybod fod ansawdd ein llety yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein gwesteion, ond mae’n dal yn wych cael sêl bendith Croeso Cymru.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ac anogaeth barhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac am y gefnogaeth gan ein cyflenwyr a’n cwsmeriaid, ni fyddem yn bodoli hebddynt.”
Penododd y Cyngor y Cynghorydd Clive Tovey yn ddiweddar i fod y Llysgennad Twristiaeth cyntaf. Dywedodd y Cynghorydd Tovey: “Mae nifer y gwyliau hunanarlwyo ym Merthyr Tudful ar eu huchaf erioed, gyda 190 o ddarparwyr llety rhent a llety AirBnB wedi’u cofrestru ar hyn o bryd – cynnydd enfawr o ddim ond 10 lleoliad yn 2019.
“Mae Casgliad Pencerrig yn enghraifft o’r hyn sydd gennym i’w gynnig, gan ddarparu profiad adfywiol wedi’i amgylchynu gan dirweddau syfrdanol a threftadaeth Gymreig gyfoethog. Gyda digonedd o weithgareddau awyr agored, dewis cynyddol o fariau a bwytai a phrofiadau siopa annibynnol o'r radd flaenaf, mae gan ein bwrdeistref sirol y cyfan.
“Llongyfarchiadau i Clare a Dougie – edrychwn ymlaen at weld eu menter o’r radd flaenaf yn mynd o nerth i nerth.”
Am ragor o wybodaeth, ewch at Pencerrig.co.uk ac am fanylion holl lety gwyliau lleol, ewch at visitmerthyr.co.uk