Ar-lein, Mae'n arbed amser
Marchnad Dan Do newydd Merthyr Tudful yn agor ei drysau ar gyfer masnach Nadolig
- Categorïau : Press Release
- 10 Rhag 2025
Bydd Marchnad Dan Do newydd Merthyr Tudful yn agor ei drysau ddydd Sadwrn yma, Rhagfyr 13eg, mewn pryd ar gyfer y fasnach Nadolig!
Bydd y farchnad newydd, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful, yn gweld cymysgedd o stondinau traddodiadol ac chynigion bwyd newydd cyffrous wedi'u lleoli yn yr adeilad wedi'i adnewyddu a oedd unwaith yn llawr gwaelod hen adeilad Wilko.
Mae'r prosiect cyffrous hwn wedi dod i ffrwyth yn dilyn ymgynghoriad Cynllun Creu Lleoedd Merthyr Tudful yn Haf 2024, lle gwnaethom wrando ar awgrymiadau'r gymuned i adleoli'r farchnad dan do bresennol. Mae tîm Adfywio'r Cyngor hefyd wedi gweithio'n agos gyda masnachwyr presennol trwy gydol y prosiect.
Mae'r prosiect wedi'i ariannu drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Rhaglen CFfGDU.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Scriven, Aelod Cabinet dros yr Economi, Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu agor y farchnad newydd cyn y Nadolig, fel yr oeddem yn bwriadu ei wneud pan wnaethom gyhoeddi'r prosiect nôl ym mis Ionawr.
"Hoffwn ddiolch i waith caled ac ymroddiad ein tîm Adfywio a'r holl randdeiliaid allweddol sy'n cymryd rhan, sydd wedi gweithio'n ddiflino i wireddu'r weledigaeth hon. Maent wedi gweithio gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr y Farchnad (NMTF) a John Weaver (Contractors) Ltd i greu gofod modern, addas i'r diben, a fydd yn ychwanegiad anhygoel i ganol y dref, gan ddenu mwy o ymwelwyr a gobeithio y bydd o fudd i fusnesau lleol y tu allan i'r cyfleuster hefyd. Mae'r masnachwyr presennol hefyd wedi bod yn ymwneud yn llawn ac yn rhan o'r holl drafodaethau yn ystod y cyfnod adeiladu.
"Mae'r diddordeb a gynhyrchir gan y farchnad newydd wedi bod yn anhygoel ac rwy'n gobeithio y byddwch i gyd yn ymuno â ni i groesawu'r busnesau newydd cyffrous a'r dewis bwyd sy'n deilwng o Insta, fel pizza 'The Burger Boys' a 'Flame and Bake'! Allwn ni ddim aros i'ch gweld chi i gyd yno!"
Bydd cam un yr agoriad yn gweld stondinwyr presennol yn symud i lawr o'u lleoliad presennol, gyda busnesau newydd yn ymuno â nhw yn y Flwyddyn Newydd. Bydd cyfnodau diweddarach yn gweld ychwanegu masnachu dydd Sul, marchnadoedd nos ac ap archebu ar gyfer y stondinau gwerthu bwyd.
Mae'r farchnad bron yn llawn, ond os hoffai unrhyw fusnes drafod cyfleoedd masnachu a bod yn rhan o'r ychwanegiad newydd cyffrous hwn i Ganol Tref Merthyr Tudful, cysylltwch â sarahbell@sttydfilshoppingcentre.co.uk.
Bydd y farchnad ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.