Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysgolion Merthyr Tudful yn talu gwrogaeth i’r Frenhines
- Categorïau : Press Release
- 16 Medi 2022

Bu disgyblion o ysgolion, ledeld Merthyr Tudful yn gosod blodau, er cof am Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn y Ganolfan Ddinesig, ddoe (15 Medi).
Croesawyd y disgyblion gan Faer Merthyr Tudful, y Cynghorydd Declan Sammon a Maria Thomas, Uwch Siryf Morgannwg Ganol. Cawsant eu gwahodd i’r Ganolfan Ddinesig am luniaeth gan ymweld â Pharwlwr y Maer a Siambr y Cyngor.
“Roeddem yn falch i wahodd cynifer o’n myfyrwyr heddiw,” meddai’r Cynghorydd Sammon. “Roeddent yn arddangos parch a syberwyd wrth dalu gwrogaeth i’r Frenhines a gall eu hysgolion fod yn falch iawn ohonynt.
“Gwnaethont fwynhau eu trip o amgylch y ganolfan ddinesig gan arwyddo’r llyfr ymwlewyr a thrio cadwyn y Maer ymlaen. Does dim amheuaeth y bydd rhai ohonynt yn mynd yn eu blaen i ddyfod yn weision cyhoeddus a bydd pob un ohonynt yn ddinasyddion gwerthfawr o Ferthyr Tudful.”